Y Gymraeg a Chriced Cymru
“Mae Criced Cymru (ynghyd â Chriced Morgannwg) wedi ymrwymo i gynyddu ein defnydd o’r Gymraeg o fewn ein meysydd dylanwad a’n cyfathrebiadau allweddol.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, Cymdeithas Chwaraeon Cymru, Chwaraeon Cymru, a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr i wella’n cymhwysedd, ein gallu a’n negeseuon.
Fel un sydd wrthi’n dysgu Cymraeg fy hun, rwy’n gwbl ymwybodol o bwysigrwydd a pherthnasedd defnyddio’r iaith o fewn y gymdeithas, a chyfrifoldeb Criced yng Nghymru i adlewyrchu’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu.
Byddaf yn gwneud yn siŵr ein bod yn parhau, lle bynnag y bo modd, i gynyddu’n gallu yn y maes hwn, gan greu cyfleoedd i ddangos ein balchder yn ein hunaniaeth Gymraeg.”
Leshia Hawkins, Prif Weithredwr
“Cricket Wales (together with Glamorgan Cricket) are committed to increasing our use of the Welsh language within our areas of influence and in key communications.
We are working in partnership with the Welsh Language Commissioner’s Office, the Welsh Sports Association, Sport Wales and the England & Wales Cricket Board, to improve our capacity, capability and messages.
As an active Welsh-learner myself, I am fully cognisant of the importance and relevance of the use of Welsh in society, and Welsh cricket’s responsibility to reflect the communities it serves.
I will ensure we continue, wherever possible, to increase our abilities in this area and create opportunities to amplify our pride in our Welsh identity.”
Leshia Hawkins, CEO
Mae defnydd o’r iaith Gymraeg yn tyfu a mae 1 allan o bob 5 person sy’n byw yng Nghymru nawr yn medru siarad Cymraeg.
Mae ein ymchwil yn dangos bod dros 17% o’n hyfforddwyr yn siarad Cymraeg a mae’r modiwl yma yn ceisio tyfu’r nifer yna wrth bwysleisio’r elfennau positif o arwain sesiynau dwyieithog.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a rydym ni wedi ymrwymo i chwarae’n rhan i gefnogi’r nôd yma.
The use of Welsh is growing and one in five people who live in Wales now speak it.
Our research shows 17% of our coaches speak Welsh and this module aims to grow that number by highlighting the positive aspects of delivering bilingual sessions.
The Welsh Government has an ambitious target of 1m Welsh speakers by 2050 and we’re committed to playing out part in making that a reality.
How to Use Welsh in Your Social Media Announcements
Many clubs now use their own templates to create social media announcements about upcoming fixtures or last weekend’s results. With a similar approach and the confidence of the correct use of Welsh, clubs could post these updates with a bilingual offer. This means that a club could post out in English and similarly in Welsh. A series of templates have been created via an editable Microsoft PowerPoint slide deck. These can be amended with your own logos/ colour scheme, or just copied and edited to suit you. Click Here
Cricket terminology
Cricket Wales' Welsh Language Policy can be found here.
Mae Criced Cymru yn un o 39 Bwrdd sy’n rhan o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) ac fe’i cydnabyddir hefyd gan Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru fel Corff Llywodraethu Cenedlaethol criced yng Nghymru. Mae ein gweledigaeth yn un syml, sef ‘Criced i gipio dychymyg Cymru’. Ein nod yw ‘arwain, ysbrydoli a dylanwadu ar dwf, cydraddoldeb a hygyrchedd criced yng Nghymru’. Rydym yn ymgorfforiad o nifer o sefydliadau criced gwahanol o bob cwr o Gymru, gyda phob un yn rhannu’r un angerdd dros griced.
Mae ein cenhadaeth yn canolbwyntio ar gefnogi amcanion nid yn unig Criced Cymru a Morgannwg, ond hefyd uchelgeisiau’r ECB a Llywodraeth Cymru ‘drwy gysylltu cymunedau a gwella llesiant drwy ysbrydoli pobl i ddarganfod eu hangerdd dros griced.’
Mae Criced Cymru’n cynnwys dros 250 o glybiau, cynghreiriau a chymdeithasau sydd â bron 25,000 o bobl yn cymryd rhan. Mae’r rhain yn cynnwys: Clybiau a Chymunedau Criced; Uwch Gynghreiriau; Cynghreiriau Criced Iau; Cymdeithasau Tirmoniaid Criced (CGA); Cymdeithas Swyddogion Criced Cymru; Cymdeithas Genedlaethol Hyfforddwyr Sirol ac ECB Cymru.