1st April 2025
| Sandie Keane
CRICKET WALES VACANCY
Job Title: Marketing & Communications Officer
Hours of Work: Full Time
Reports to: CEO
Remuneration: £28,000 - £32,000
Main Office Location: Sophia Gardens, Cardiff (remote or hybrid working considered)
Cricket in Wales – Strengthening Identity, Engagement, and Inclusion
Cricket Wales is committed to driving a strong Welsh identity and cementing its position as the National Governing Body for Cricket in Wales, making it a Sport for All. Effective marketing and communications are vital in ensuring our sport is accessible, inclusive, and reflective of our values of Together, Lead, and Care.
To lead this ambition, we are introducing a new role: Marketing & Communications Officer. This role will be responsible for shaping and delivering our brand, ensuring consistency in messaging, and amplifying our work across all platforms.
The post holder will play a key role in engaging stakeholders, increasing visibility, and promoting Cricket Wales' values and Equality, Diversity, and Inclusion (EDI) commitments. They will also be integral in growing awareness of cricket’s impact within communities and across the country.
Key Responsibilities:
Building and Promoting a Strong Welsh Cricket Identity
- Develop and execute a marketing and communications strategy that strengthens
- Cricket Wales’ position as the governing body for cricket in Wales.
- Ensure that Cricket Wales is a recognisable and trusted brand, synonymous with inclusivity, opportunity, and growth.
- Celebrate Welsh identity through tailored messaging and content that resonates with the cricketing community and wider public.
Strategic Communications & Stakeholder Engagement
- Drive clear, compelling, and consistent communications across all channels, ensuring alignment with Cricket Wales' strategic goals.
- Lead on media relations, managing press opportunities and ensuring positive coverage of Cricket Wales and its initiatives.
- Engage with key stakeholders, including the ECB, Sport Wales, Glamorgan, Chance to Shine, Lord Taverners, clubs, schools, and community groups, to strengthen Cricket Wales’ influence and
- Fulfil the requirements of commercial partners.
Enhancing Digital & Social Media Presence
- Oversee the development and management of Cricket Wales' digital platforms, ensuring engaging, accessible, and impactful content.
- Drive social media growth and interaction, showcasing cricket’s role in Welsh communities and championing participation at all levels.
- Monitor and analyse digital engagement, using insights to refine strategy and improve audience reach.
Championing Values, EDI & Inclusivity
- Ensure all marketing and communication efforts reflect Cricket Wales’ values and commitment to EDI.
- Develop campaigns and initiatives that actively promote inclusivity and widen participation across all demographics.
- Work closely with internal teams to ensure Cricket Wales is leading on EDI messaging and delivering content that supports a diverse cricketing community.
Content Creation & Storytelling
- Produce compelling content, including written articles, video, graphics, and reports, that highlight the positive impact of cricket in Wales.
- Develop storytelling approaches that celebrate the achievements of clubs, players, volunteers, and officials across Wales.
- Collaborate with partners and SLT to showcase cricket’s role in bringing communities together and promoting well-being.
Crisis Communications & Reputation Management
- Act as the lead for crisis communications, ensuring a proactive and professional approach to handling sensitive issues.
- Develop protocols for internal and external communications in times of challenge or
- Safeguard Cricket Wales’ reputation through clear and transparent
Required Skills and Experience:
- Proven experience in marketing, communications, or public relations, ideally within sport or a similar sector.
- Strong understanding of brand identity, digital marketing, and content
- Exceptional writing, editing, and storytelling skills with experience in producing engaging content across various media.
- Experience in media relations and managing press
- Knowledge of EDI principles and a commitment to promoting inclusivity through marketing and communications.
- Ability to develop strategic campaigns that enhance visibility, engagement, and
Desirable Experience & Attributes:
- A passion for cricket and an understanding of the sport’s structure in Wales and the UK.
- Experience in leading social media growth and engagement
- Knowledge of analytics tools to measure digital engagement and inform content
- Welsh language proficiency or a willingness to develop Welsh language
Our Commitment to Inclusion & Well-being
Cricket Wales is committed to ensuring equitable opportunities for all. We particularly encourage applications from individuals underrepresented in cricket, including women, ethnically diverse communities, and individuals with disabilities.
We are also dedicated to fostering an environment of well-being, respect, and professional growth for all our staff and volunteers.
If you are passionate about shaping the identity of Cricket Wales and driving impactful messaging, we would love to hear from you.
How to Apply:
If you're excited to help Cricket Wales continue its success, please click for the application form.
English
Cymraeg
Completed applications should be returned to [email protected]
Closing date for applications: Friday 25th April 2025
You must be based and hold the right to work in the UK to apply for this position.
For details on our commitment to Safer Recruitment click here
Cricket Wales believes that Safeguarding is an essential element that is central to all we do. Every child, young person and adult has the right to feel safe and included in all that they do, and this means ensuring we have the right people working within our organisation by following a robust safe recruitment process. Cricket Wales strive to make cricket in Wales a safe and enjoyable place for ‘everyone’ to experience at all levels of the game.
Teitl y Swydd: Swyddog Marchnata a Chyfathrebu
Oriau Gwaith: Amser Llawn
Yn adrodd i’r: Prif Weithredwr
Cyflog: £28,000 - £32,000
Lleoliad Prif Swyddfa: Gerddi Sophia, Caerdydd (ystyrir gweithio o bell neu weithio hybrid)
Criced yng Nghymru – yn Cryfhau Hunaniaeth, Ymgysylltiad, a Chynhwysiant
Mae Criced Cymru wedi ymrwymo i hybu hunaniaeth Gymreig gadarn ac atgyfnerthu ei rôl fel Corff Llywodraethu Cenedlaethol Criced yng Nghymru, gan wneud criced yn Gêm i Bawb. Mae marchnata a chyfathrebu effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod ein gêm yn un hygyrch a chynhwysol sy’n adlewrychu ein gwerthoedd, sef Gyda’n Gilydd, Arwain, a Gofalu.
I arwain yr uchelgais hon, rydym yn cyflwyno rôl newydd, sef Swyddog Marchnata a Chyfathrebu. Bydd y rôl hon yn gyfrifol am siapio a chyflenwi ein brand, gan sicrhau cysondeb o ran negeseuon, a hyrwyddo ein gwaith ar draws bob platfform.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn codi proffil, ac yn hyrwyddo gwerthoedd ac ymrwymiadau Criced Cymru mewn perthynas â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mi fydd hefyd yn hanfodol o ran cynyddu ymwybyddiaeth o effaith criced o fewn cymunedau a ledled y wlad.
Prif Gyfrifoldebau:
Adeiladu a Hyrwyddo Hunaniaeth Gadarn i Griced yng Nghymru
- Datblygu a gweithredu strategaeth farchnata a chyfathrebu sy’n cryfhau rôl Criced Cymru fel corff llywodraethu cenedlaethol criced yng Nghymru.
- Sicrhau bod Criced Cymru yn frand adnabyddus a dibynadwy sy’n gyfystyr â chynhwysiant, cyfle, a thwf.
- Dathlu hunaniaeth Gymreig drwy negeseuon sydd wedi’u teilwra’n benodol, a chynnwys sy’n taro deuddeg gyda’r gymuned griced a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Cyfathrebu Strategol ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
- Hyrwyddo cyfathrebu clir, cymhellol a chyson ar draws yr holl sianeli, gan sicrhau ei fod yn cydweddu ag amcanion strategol Criced Cymru.
- Arwain y cyswllt â’r cyfryngau, rheoli cyfleoedd yn y wasg, a sicrhau bod Criced Cymru a’i fentrau yn cael sylw positif.
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys yr ECB, Chwaraeon Cymru, Criced Morgannwg, Chance to Shine, Lord’s Taverners, clybiau, ysgolion, a grwpiau cymunedol, i gryfhau dylanwad ac effaith Criced Cymru.
- Bodloni gofynion partneriaid masnachol.
Gwella Presenoldeb Digidol ac yn y Cyfryngau Cymdeithasol
- Goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a rheoli platfformau digidol Criced Cymru gan sicrhau cynnwys apelgar, hygyrch a dylanwadol.
- Hybu mwy o ddefnydd a rhyngweithio â’r cyfryngau cymdeithasol, gan arddangos rôl criced o fewn cymunedau yng Nghymru, a hyrwyddo cyfranogiad ar bob lefel.
- Monitro a dadansoddi ymgysylltiad digidol, gan defnyddio’r wybodaeth i fireinio strategaethau a chyrraedd cynulleidfa ehangach.
Hyrwyddo Gwerthoedd, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Sicrhau bod yr holl farchnata a chyfathrebu yn adlewrychu gwerthoedd ac ymrwymiad Criced Cymru i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
- Datblygu ymgyrchoedd a mentrau sy’n hyrwyddo cynhwysiant ac yn ehangu cyfranogiad ar draws pob demograffeg.
- Gweithio’n agos â thimau mewnol i sicrhau bod Criced Cymru yn arwain ar negeseuon Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac yn darparu cynnwys sy’n cefnogi cymuned griced amrywiol.
Creu Cynnwys a Rhannu Straeon
- Cynhyrchu cynnwys cymhellol, gan gynnwys erthyglau ysgrifenedig, fideos, graffeg, ac adroddiadau sy’n tanlinellu effaith bositif criced yng Nghymru.
- Datblygu dull o rannu straeon sy’n dathlu llwyddiannau clybiau, chwaraewyr, gwirfoddolwyr, a swyddogion ledled Cymru.
- Cydweithio â phartneriaid a’r Uwch Dîm Rheoli i arddangos rôl criced yn dod â chymunedau at ei gilydd ac yn hyrwyddo lles.
Cyfathrebu yn ystod Argyfwng a Diogelu Enw Da
- Arwain y cyfathrebu yn ystod argyfwng, gan fabwysiadu dull rhagweithiol a phroffesiynol o ddelio â materion sensitif.
- Datblygu protocolau ar gyfer cyfathrebu mewnol ac allanol yn ystod adegau heriol neu ansicr.
- Diogelu enw da Criced Cymru drwy negeseuon clir ac agored.
Sgiliau a Phrofiad Gofynnol:
- Profiad o weithio ym maes marchnata, cyfathrebu, neu gysylltiadau cyhoeddus, yn ddelfrydol o fewn chwaraeon neu sector tebyg.
- Dealltwriaeth gadarn o hunaniaeth brand, marchnata digidol, a chreu cynnwys.
- Sgiliau ysgrifennu, golygu ac adrodd straeon rhagorol, ynghyd â phrofiad o gynhyrchu cynnwys apelgar ar draws cyfryngau gwahanol.
- Profiad o gyswllt â’r cyfryngau a rheoli ymgysylltiad â’r wasg.
- Gwybodaeth o egwyddorion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac ymrwymiad i hyrwyddo cynhwysiant drwy farchnata a chyfathrebu.
- Y gallu i ddatblygu ymgyrchoedd strategol sy’n codi proffil ac yn gwella ymgysylltiad a chyfranogiad.
Profiad a Rhinweddau Dymunol
- Angerdd am y gêm a dealltwriaeth o strwythur criced yng Nghymru a’r DU.
- Profiad o gynyddu defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol a strategaethau ymgysylltu.
- Gwybodaeth o offer dadansoddi i fesur ymgysylltiad digidol a helpu i lunio strategaeth o ran cynnwys.
- Hyfedredd yn y Gymraeg neu barodrwydd i ddatblygu sgiliau Cymraeg.
Ein Hymrwymiad i Gynhwysiant a Lles
Mae Criced Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd cyfartal i bawb. Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig oddi wrth unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym myd criced, gan gynnwys merched, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, ac unigolion gydag anableddau.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd sy’n sicrhau lles, parch, a thwf proffesiynol ein holl staff a gwirfoddolwyr.
Os oes gennych chi awydd angerddol i siapio hunaniaeth Criced Cymru a hyrwyddo dulliau cyfathrebu effeithiol, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi.
Sut i Ymgeisio:
Os ydych chi’n awyddus i helpu Criced Cymru i barhau i lwyddo, cliciwch i gael ffurflen gais.
Cymraeg
Saesneg
Ar ôl llenwi’r ffurflen gais dylech ei dychwelyd i [email protected]
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener Ebrill 25 ain
Rhaid ichi fod yn byw, ac yn meddu ar yr hawl i weithio yn y DU i wneud cais am y swydd hon.
I gael manylion am ein hymrwymiad i Recriwtio Mwy Diogel cliciwch yma
Mae Criced Cymru yn credu bod Diogelu yn elfen hanfodol sy’n ganolog i bopeth a wnawn. Mae gan bob plentyn, person ifanc ac oedolyn yr hawl i deimlo’n ddiogel ac yn rhan lawn o bopeth a wnânt, ac mae hyn yn golygu sicrhau ein bod â’r bobl iawn yn gweithio o fewn ein sefydliad, drwy ddilyn proses recriwtio gadarn a diogel. Mae Criced Cymru yn gwneud pob ymdrech i wneud criced yng Nghymru yn lle diogel a phleserus i ‘bawb’ ei brofi ar bob lefel o’r gêm.