2nd February 2022
| Mark Frost
Anogir Clybiau i roi eu rhaglenni All Stars a Dynamos (amserau ac ati) ar system Clubspark cyn gynted â phosib, am fod y system yn agor i rieni gofrestru mewn dwy ffordd dros y bythefnos nesaf.
Chwefror 10fed: gall y rhai sydd wedi cyn-gofrestru ymuno
Chwefror 17eg: yn agored i’r cyhoedd
Os nad yw eich rhaglenni wedi’u llwytho ar y system fydd neb yn eu gweld!
Hyfforddiant Gwirfoddolwyr
Mi fyddwch yn falch o wybod y bydd gwybodaeth am yr hyfforddiant i ysgogwyr (activators) newydd, a sesiynau diweddaru i ysgogwyr presennol ar gael yn fuan.
Dechreuwch feddwl am bwy i’w gofyn i fod yn rhan o’ch tîm i gael 2022 gwych!
Gall rhieni gyn-gofrestru yma