Dydd Gwyl Dewi Hapus / Happy St David's Day

|

This is a bumper St David's Day News bulletin which shows the many way of celebrating our National Day in Wales! Have a read of five stories with different people in Cricket in Wales...

Mae hwn yn fwletin newyddion arbennig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi sy’n dangos sut y gallwn ni fynd ati mewn ffyrdd gwahanol i ddathlu ein Diwrnod Cenedlaethol yng Nghymru!  Darllenwch bump o storïau gwahanol gan bobl sy’n rhan o’r byd criced yng Nghymru …

 

WELSH CAKES & RECIPES FOR CRICKET /  PICE AR Y MAEN A RYSEITIAU AR GYFER CRICED

What better way to celebrate St David's Day than with the delightful tradition of Welsh cakes?

Pa ffordd well o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi na gyda’r traddodiad hyfryd o Bice ar y Maen?

For those unfamiliar, these sweet treats are a delicious fusion of scone, pancake, and biscuit, characterised by their light texture. Traditionally cooked on a bake stone, or more commonly these days on a flat iron pan, Welsh cakes make for a perfect teatime indulgence. Their presence is felt across Wales, particularly in our beloved cricket clubs during the summer months, where they serve as a cherished addition to many club teas. This year, our Facilities Investment Manager, Victoria, has taken the time to share her recipe, inviting you to join her in the kitchen. We encourage all our members to get involved—bake your own Welsh cakes and share your creations with us! Don’t forget to tag us in your photos and videos; we can't wait to see how you celebrate this wonderful Welsh tradition!

I’r rhai sydd ddim yn gyfarwydd, mae’r danteithion melys hyn yn gacennau bach ysgafn sy’n gyfuniad blasus o sgon, crempog a bisged.  Yn cael eu coginio’n draddodiadol ar faen pobi, ond ar badell haearn fflat gan amlaf erbyn hyn, mae Pice ar y Maen yn berffaith i’w mwynhau gyda phaned o de.  Maent ar gael ar draws Cymru, yn enwedig yn ein clybiau criced yn ystod misoedd yr haf, lle maent yn aml yn ychwanegiad blasus at y te prynhawn.  Eleni, mae ein Rheolwr Buddsoddi mewn Cyfleusterau, Victoria, wedi cytuno i rannu ei rysáit, gan eich gwahodd i ymuno â hi yn y gegin.  Anogwn ein holl aelodau i fynd ati i bobi eu Pice ar y Maen eu hunain a rhannu eu creadigaethau gyda ni!  Cofiwch ein tagio yn eich lluniau a’ch fideos; rydym wir yn edrych ymlaen at eich gweld yn dathlu’r traddodiad Cymreig gwych yma!

 

SCHOOL CHILDREN ENJOYING LEARNING ABOUT CRICKET & WELSH / PLANT YSGOL YN MWYNHAU DYSGU AM GRICED A’R GYMRAEG

Ysgol Carreg Hirfawn Cwmann in Lampeter were enjoying playing and learning the skills of cricket with their coach Paul Rowe when our intrepid reporter asked one of the cricketers a few questions about speaking Welsh.

Roedd Ysgol Carreg Hirfawn Cwmann yn Llanbedr Pont Steffan wrthi’n mwynhau chwarae a dysgu sgiliau criced gyda’u hyfforddwr, Paul Rowe, pan ofynnodd ein gohebydd craff ychydig o gwestiynau i un o’r cricedwyr am siarad Cymraeg:

Click here to watch https://youtube.com/shorts/oMK3hizpP2s?feature=share 

  • Question: Why do you like living in Wales?
  • Girl 1: People are nice and everybody speaks Welsh.
  • Question: What is good about being Welsh?
  • Girl 2: Not many people speak Welsh, but it's good that we have our own language
  • Cwestiwn: Pam wyt ti’n mwynhau byw yng Nghymu?
  • Merch 1:  Mae pobl yn neis ac mae pawb yn siarad Cymraeg.
  • Cwestiwn:  Beth sy’n dda am fod yn Gymraes?
  • Merch 2:  Does dim llawer o bobl yn siarad Cymraeg, ond mae’n dda bod ‘da ni ein hiaith ein hunain.

A STREET CRICKET SESSION IN SWANSEA TAKES TIME OUT TO WISH YOU A HAPPY DAY / SESIWN CRICED STRYD YN ABERTAWE YN DYMUNO DIWRNOD HAPUS ICHI

A street cricket session in Penlan, Swansea broke away from another exciting game to show their language skills and powerful singing voices by forming this ad hoc choir to wish everyone a happy St David's Day.  https://youtu.be/oywul7-I1_8

Cymerodd y rhai oedd yn rhan o sesiwn criced stryd yn Abertawe seibiant o gêm gyffrous arall i arddangos eu sgiliau Cymraeg a’u lleisiau canu cryf drwy ffurfio’r côr ad hoc yma i ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb. https://youtu.be/oywul7-I1_8 

 

TRILINGUAL COACHING RESOURCE / ADNODD HYFFORDDI TAIRIEITHOG

We are excited to announce the launch of new trilingual coaching resources by Disability Sport Wales, designed to support coaches and volunteers in making sports more accessible for everyone through language and phrases. 

With these innovative materials, cricket clubs across Wales can now seamlessly integrate Cymraeg, English, and British Sign Language into their sessions. This initiative aims to empower coaches and volunteers with the confidence and tools needed for inclusive delivery, ensuring that all participants feel welcome and engaged. We are thrilled to share this resource with you and look forward to seeing the positive impact it will have on our communities. For more information -  https://www.disabilitysportwales.com/en-gb/trilingual-resource/greetings

We think it is really good!

Rydym yn hynod falch o gyhoeddi lansiad adnodd hyfforddi tairieithog gan Chwaraeon Anabledd Cymru, sydd wedi’i gynllunio i helpu hyfforddwyr a gwirfoddolwyr i sicrhau bod chwaraeon ar gael i bawb, drwy iaith ac ymadroddion. 

Gyda’r deunydd arloesol hwn, gall clybiau criced ledled Cymru bellach integreiddio Cymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain i’w sesiynau.  Nod y fenter hon yw darparu hyfforddwyr a gwirfoddolwyr â’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i gynnig darpariaeth gynhwysol, gan sicrhau bod pob cyfranogwr yn cael croeso ac yn cymryd rhan i’r eithaf.  Rydym wrth ein boddau’n rhannu’r adnodd hwn gyda chi, ac edrychwn ymlaen at weld yr effaith bositif ar ein cymunedau.  Am fwy o wybodaeth -  https://www.disabilitysportwales.com/en-gb/trilingual-resource/greetings

Yn ein barn ni mae’n dda iawn!

 

WHAT PLAYING FOR WALES MEANS TO US / BETH MAE CHWARAE DROS GYMRU YN EI OLYGU I NI

Playing for Wales remains one of the most aspirational achievements any person and cricketer could wish to do - at least that's the views of current Denbigh captain (and Wales National County North player) Harrison Jones and Cardiff born spin all-rounder Tegid Phillips. Listen to what it means to them below: 

Mae chwarae dros Gymru yn un o‘r pethau mwyaf ysbrydoledig y gall unrhyw unigolyn a chricedwr ddymuno ei gyflawni – o leiaf dyna farn capten presennol Dinbych (a chwaraewr Siroedd Cenedlaethol Cymru (Gogledd)) Harrison Jones, a’r chwaraewr amryddawn sy’n droellwr o Gaerdydd, Tegid Phillips. Gwrandewch ar yr hyn mae’n ei olygu iddyn nhw isod: 

 

 

To commemorate St David's Day, Wales National County have asked YOU for your votes in assembling the best 'Wales NC All Time XI' since its formation in 1988! Check out @WalesNCounty on 'X' to see the final team!

Why not tag us in with your St David's Day celebration!

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, mae Siroedd Cenedlaethol Cymru wedi gofyn I CHI bleidleisio  i greu’r ‘Tîm Siroedd Cenedlaethol Cymru Gorau Erioed’ ers ei sefydlu yn 1988!  Ewch i @WalesNCounty ar ‘X’ i weld y tîm terfynol!

Beth am ein tagio ni yn eich dathliad Dydd Gŵyl Dewi?!

Share

Official Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play