Datganiad Criced Cymru, 25ain Tachwedd

|

Cwrddodd Bwrdd Criced Cymru ddoe i drafod yr honiadau a’r datgeliadau diweddar am hiliaeth ym myd criced.

Roedd y Cyfarwyddwyr yn unfrydol yn eu cefnogaeth i’r egwyddorion a’r ymrwymiadau a gynigiwyd gan bartneriaid Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB), yn dilyn y cyfarfod ‘All-Game’ yn yr Kia Oval yr wythnos diwethaf.

Yn ogystal ag ymrwymo i fabwysiadu’n llwyr y mesurau a gynigiwyd, ail-bwysleisiodd Criced Cymru ei bolisi ‘goddef dim’ tuag at hiliaeth a gwahaniaethu yn ei holl ffurfiau.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn egwyddor llywodraethu hirsefydlog i’n Bwrdd a’n sefydliad; mae crynodeb o’n gwaith a’n huchelgais ar gael yma. Ar 19eg Tachwedd, cynhaliodd gweithredwyr a Chadeiryddion is-bwyllgorau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Criced Cymru a Chriced Morgannwg weithdy ar y cyd â phrif randdeiliaid a darpar bartneriaid, i drafod ein cynlluniau, a dysgu am arfer gorau gan arbenigwyr yn y maes, oddi mewn ac oddi allan i chwaraeon.

Byddwn yn parhau gyda’r gwaith hwn o ddifrif, gyda’n gilydd, dros yr wythnosau, misoedd a blynyddoedd sydd i ddod, gan sicrhau bod ein staff a’n gwirfoddolwyr yn derbyn yr addysg, hyfforddiant a chymorth sydd ei angen arnynt i alluogi’n gêm i barhau i symud ymlaen. 

 

Meddai Cadeirydd Criced Cymru, Jennifer Owen Adams,  “Mae’n foesol hanfodol ein bod yn symud yn gyflym ac mewn ffordd bendant i unioni’r camau a ddaeth i’r amlwg yn ddiweddar, ac yn ddiau nifer o brofiadau a storïau eraill sydd heb eu hadrodd – ac mae’n gyfrifoldeb ar bawb i wneud hynny.

“Mae gwneud yn well na dweud.  Rhaid inni sefydlu’r ymddygiad a’r gweithredoedd sydd eu hangen i roi gwirionedd i’n gwaith, a chael effaith ar draws y rhwydwaith criced.  Rhaid inni fod yn fwy na ’siop siarad’.

“Byddwn yn llwyddo i symud ymlaen drwy newid ein diwylliant;  yn y bôn, ymddygiad sy’n gyfrifol am newid ein diwylliant; mae strategaethau ac egwyddorion yn hwyluso hynny, ond dydyn nhw ddim yn ddigon ynddyn nhw’u hunain.  Byddwn yn sefydlu’r mathau iawn o ymddygiad wrth inni fynd o gwmpas ein gwaith – ac yn ‘codi llais’ pan welwn ni eraill yn methu â gwneud hynny.

“Mae cadw’n dawel am hiliaeth neu unrhyw ffurf ar wahaniaethu’n gyfystyr â chydsynio iddo.

“Byddwn yn sicrhau ein bod yn gyfrifol am y cynnydd a wnawn o ran y camau a gytunwyd gan Y Gêm, a byddwn yn parhau i arwain, a chael gwared ag unrhyw ymddygiad sy’n ymyleiddio, neu’n gwahaniaethu o fewn ein gêm.

“Ein hamrywiaeth yw ein nerth, a byddwn yn sicrhau bod y neges hon yn atseinio ar draws y gêm yng Nghymru.”

Share

Offical Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play