Vacancy for Board Trustee

|

Cricket Wales / Criced Cymru are recruiting two Recreational Game Trustees

Cricket Wales are looking to recruit two Recreational Game Trustees to join the Board of Cricket Wales.

This is a great time to be joining the Board as we become a Charity and embark on delivering our next strategic plan. Our focus will be to ensure that cricket is “a Sport for all” and that everyone feels welcome to be involved in our sport in the way that is best for them.

Our strategy will be delivered by adhering to our values; Together, Lead, Care.  These values will guide everything we do as Trustees on behalf of Criced Cymru.  Criced Cymru Strategy

The Trustees are accountable to ensure the company meets its legal obligations and for the performance of Cricket Wales in its mission and delivery of strategy. The Trustees provide appropriate oversight, scrutiny, challenge, and leadership to the company in the pursuit of its aim to provide effective and high-quality services to its members and grow cricket in Wales. They have a particular role in scrutinising the performance of the senior executive management team in meeting agreed goals and objectives and monitoring the reporting of performance. Skills in areas such as strategic planning, financial planning, developing new income streams, governance and risk management are among those we are looking for in our Trustees.

 

To be eligible to apply to be a Recreational Game Trustee you must be a member of an organisation that affiliates to Cricket Wales or of an organisation that is a Member or Associate Member of Cricket Wales, and you must be nominated and seconded by members of a Member or Associate Member of Cricket Wales.

We welcome applications from anyone who meets the eligibility criteria and never having been a Trustee before is not a barrier to being part of our Board as a full induction will be provided

In this instance we would particularly welcome applications from people with a strong interest and experience in one or more of the following;

  • Generating income from sponsorship, commercial relationships, or charitable donations
  • Governance and Compliance with the potential to take on the role of Company Secretary

Cricket Wales is committed to providing equitable opportunities. While we will always appoint on merit, we would particularly encourage applications from under- represented groups and communities in cricket – especially female or ethnically diverse people, or those who identify as having a disability.

Board meetings are held in the day time up to 6 times per year, usually at The Sophia Gardens Stadium, Cardiff, but also in other locations around Wales, and, if necessary, via Teams/Zoom. Trustees will also serve on one or two Board Committees which meet 4/6 times a year as required; these are usually evening meetings held via Teams / Zoom.

In addition, Trustees are invited to attend official events such as presentations, competition finals and other relevant meetings. This is accepted to be on an ‘as available’ basis and is therefore not specified as a number of events/days

The Trustees role is unpaid although expenses incurred will be reimbursed

Click link below for a detailed job description outlining the skills and competencies we are looking for:-

Trustee Job Description - English

Trustee Job Description – Cymraeg

Nomination Form

 

If you would like to discuss the role in more detail please contact Dr Tim Masters, Chair Cricket Wales on [email protected] to arrange an informal discussion

To apply, please send your completed nomination form a copy of your CV and a cover letter outlining why you feel you are the right person to join the Board of Cricket Wales to [email protected]

Closing date for applications will be Wednesday 27th August and interviews for the role will be held on 2nd October 2025.

 

Criced Cymru yn recriwtio dau Ymddiriedolwr Criced Hamdden

 

Mae Criced Cymru am recriwtio dau Ymddiriedolwr Criced Hamdden i ymuno â Bwrdd Criced Cymru.

Mae hon yn adeg wych i fod yn ymuno â’r Bwrdd wrth inni ddod yn Elusen a dechrau ar y gwaith o gyflawni ein cynllun strategol nesaf.  Ein ffocws fydd sicrhau bod criced yn “Gêm i Bawb” a bod pawb yn teimlo bod croeso iddyn nhw gymryd rhan yn ein gêm yn y ffordd sydd orau iddyn nhw.

Byddwn yn cyflawni ein strategaeth drwy gadw at ein gwerthoedd:  Gyda’n Gilydd, Arwain, Gofalu.  Bydd y gwerthoedd hyn yn llywio popeth a wnawn ni fel Ymddiriedolwyr ar ran Criced Cymru.   Strategeth Criced Cymru

Mae Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am sicrhau bod y cwmni’n cwrdd â’i ymrwymiadau cyfreithiol, ac am berfformiad Criced Cymru o ran ei genhadaeth a’r modd y mae’n cyflawni ei strategaeth.  Mae Ymddiriedolwyr yn darparu trosolwg, craffu, her, ac arweinyddiaeth briodol wrth i’r cwmni anelu am ei nod o ddarparu gwasanaethau effeithiol o safon uchel i’w aelodau, a thyfu criced yng Nghymru.  Mae ganddynt rôl arbennig yn craffu ar berfformiad yr uwch dîm rheoli gweithredol mewn perthynas â chyflawni’r nodau ac amcanion a gytunwyd, a monitro’r broses o adrodd ar berfformiad.  Mae sgiliau mewn meysydd megis cynllunio strategol, cynllunio ariannol, datblygu ffrydiau incwm newydd, llywodraethu, a rheoli risg ymhlith y rhai rydym yn chwilio amdanynt.

 

I fod yn gymwys i wneud cais i fod yn Ymddiriedolwr Criced Hamdden rhaid ichi fod yn aelod o un o sefydliadau cyswllt Criced Cymru, neu sefydliad sy’n Aelod neu’n Aelod Cyswllt o Criced Cymru, a rhaid ichi gael eich enwebu a’ch eilio gan aelodau o sefydliad sy’n Aelod neu Aelod Cyswllt o Criced Cymru.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy’n bodloni’r meini prawf cymhwyso, a does dim rhaid ichi fod wedi cyflawni rôl Ymddiriedolwr o’r blaen i fod yn rhan o’n Bwrdd, oherwydd mi fyddwn yn darparu rhaglen sefydlu lawn.

Yn yr achos hwn rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl sydd â diddordeb cryf a phrofiad yn un neu ragor o’r canlynol:

  • Cynhyrchu incwm o nawdd, cysylltiadau masnachol, neu roddion elusennol
  • Llywodraethu a Chydymffurfio, gyda’r posibilrwydd o ymgymryd â rôl Ysgrifennydd y Cwmni

Mae Criced Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd cyfartal. Er y byddwn bob amser yn penodi ar sail teilyngdod, byddem yn annog ceisiadau yn arbennig oddi wrth grwpiau a chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym myd criced – yn enwedig merched neu bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, neu rai sydd ag anabledd.

Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd yn ystod y dydd hyd at chwe gwaith y flwyddyn, fel arfer yn Stadiwm Gerddi Sophia, Caerdydd, ond hefyd mewn lleoliadau eraill ledled Cymru, ac, os bydd angen, ar Teams/Zoom.  Bydd Ymddiriedolwyr hefyd yn gwasanaethu ar un neu ddau o Bwyllgorau’r Bwrdd, sy’n cwrdd 4/6 gwaith y flwyddyn fel bo angen; mae’r rhain fel arfer yn gyfarfodydd fin nos a gynhelir ar Teams/Zoom

Yn ogystal, gwahoddir Ymddiriedolwyr i fynychu digwyddiadau swyddogol megis cyflwyniadau, rowndiau terfynol cystadlaethau a chyfarfodydd eraill perthnasol.  Derbynnir bod hyn ar sail ‘argaeledd’, ac felly nid yw wedi’i nodi fel nifer o ddigwyddiadau/diwrnodau.

Mae rôl Ymddiriedolwr yn un ddi-dâl er y bydd unrhyw gostau yn cael eu had-dalu.

Cliciwch ar y ddolen isod am ddisgrifiad manwl o’r swydd yn amlinellu’r sgiliau a’r cymwyseddau rydym yn chwilio amdanynt:

 

Disgrifiad Swydd Ymddiriedolwr - Saesneg

Disgrifiad Swydd Ymddiriedolwr – Cymraeg

Ffurflen Enwebu

Os hoffech chi drafod y rôl mewn mwy o fanylder, cysylltwch â Dr Tim Masters, Cadeirydd Criced Cymru ar [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol.

I wneud cais, anfonwch y ffurflen enwebu wedi’i llenwi, copi o’ch CV, a llythyr eglurhaol yn amlinellu pam eich bod yn teimlo mai chi yw’r person iawn i ymuno â Bwrdd Criced Cymru, at [email protected].

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd Dydd Mercher 27 Awst a chynhelir cyfweliadau ar gyfer y rôl ar  2 Hydref 2025.

Share

Official Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play