Cricket Wales & Glamorgan Cricket Joint Statement on ICEC Report

|

Cricket Wales and Glamorgan Cricket Joint Statement following the release of the ICEC Report

The First Class Counties and County Cricket Boards who make up the England & Wales Cricket Board (ECB) received a copy of the Independent Commission for Equity in Cricket (ICEC) report at the same time as the general public, when the report was published today.  We are therefore reading the report and its recommendations for the first time today, and prioritising fully digesting its contents and understanding the commission’s recommendations. 

It is clear already that the report contains significant learnings for cricket to take on board and action in order that we improve our offer and service to traditionally under-represented groups, and to restore or improve trust and confidence in some of the systems, structures and culture within our sport.

Glamorgan Cricket and Cricket Wales also recognise that this report will be difficult and potentially distressing reading for some of our members, fans, participants, and people involved at all levels of cricket.

Our position is clear - Discrimination has NO place in Welsh cricket, nor in Welsh society, and we take all allegations of discrimination, in all forms, extremely seriously.  We want people to know that anyone can report discrimination in the knowledge that we will act appropriately.

To report anything to which you have been subjected, or have witnessed, you can do so at this link. You can report what you have experienced or witnessed anonymously by entering [email protected] in the email address field.  If you do wish to be identified and / or contacted in relation to what you have experienced or witnessed, please include your name and contact details.

We look forward to the opportunity to engage fully in the ECB consultation process in the coming months to drive further positive change across cricket.

 

Hugh Morris                                  Leshia Hawkins 

Chief Executive Officer                Chief Executive Officer 

Glamorgan Cricket                       Cricket Wales

 

 

Cyhoeddi Datganiad ar y Cyd rhwng Criced Cymru a Chriced Morgannwg yn dilyn cyhoeddi Adroddiad yr ICEC

Derbyniodd y Siroedd Dosbarth Cyntaf a’r Byrddau Criced Sirol sy’n rhan o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (yr ECB) gopi o adroddiad y Comisiwn Annibynnol dros Degwch mewn Criced (yr ICEC) ar yr un pryd â’r cyhoedd yn gyffredinol, pan gyhoeddwyd yr adroddiad heddiw. Felly, rydym yn darllen yr adroddiad a’i argymhellion am y tro cyntaf heddiw ac yn blaenoriaethu amgyffred ac ystyried ei gynnwys a deall argymhellion y Comisiwn yn llawn. 

Mae’n amlwg eisoes bod argymhellion dysgu sylweddol yn yr adroddiad i’r byd criced roi ystyriaeth iddynt, ynghyd â chamau gweithredu fel y gallwn wella ein cynnig a’n gwasanaeth i grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli’n draddodiadol, ac adfer neu wella ymddiriedaeth a hyder mewn rhai o’r systemau, strwythurau a diwylliant yn ein camp.

Mae Criced Morgannwg a Chriced Cymru hefyd yn cydnabod y bydd yr adroddiad hwn yn anodd i rai o’n haelodau, cefnogwyr, cyfranogwyr, a phobl sy’n gysylltiedig â chriced ar bob lefel. Gallai fod yn brofiad darllen poenus o bosibl hefyd.

Mae ein safbwynt yn glir – Does DIM lle i wahaniaethu mewn criced yng Nghymru, nac ychwaith mewn cymdeithas yng Nghymru, a chymerwn bob honiad o wahaniaethu o unrhyw a phob math o ddifrif. Rydym am i bobl wybod y gall unrhyw un adrodd am wahaniaethu, gan wybod y byddwn yn cymryd camau gweithredu priodol.

I adrodd am unrhyw beth rydych chi wedi’i wynebu, neu wedi’i weld neu ei glywed, gallwch wneud hynny drwy ddilyn y ddolen yma: England and Wales Cricket Board (ECB) - The Official Website of the ECB  Gallwch adrodd am yr hyn rydych wedi’i wynebu, neu wedi’i weld neu ei glywed yn ddienw drwy roi [email protected] yn llinell y cyfeiriad ebost. Os hoffech gael eich enwi neu os hoffech i rywun gysylltu â chi am yr hyn rydych chi wedi’i wynebu, neu wedi’i weld neu ei glywed, rhowch eich enw a’ch manylion cyswllt.

Edrychwn ymlaen at y cyfle i ymgysylltu’n llawn â phroses ymgynghori’r ECB dros y misoedd nesaf i yrru newid cadarnhaol pellach ar draws y byd criced.

 

Hugh Morris                             Leshia Hawkins 

Prif Weithredwr                      Prif Weithredwr

Criced Morgannwg                Criced Cymru

 

 

 

Share

Offical Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play