14th May 2024
| Mark Frost
It’s time to nominate your club's heros...
The 2024 Cricket Awards are now open for nominations. In Wales, we will have a series of winners across the categories that you see below, leading to a Welsh Cricket Awards Ceremony on 17th September. From this, the Wales winners will be forwarded to the England & Wales Cricket Board as nominees for its own awards.
Without volunteers to make our game happen, keep it safe, sustained and growing, we have no sport. Please do take the time to nominate the special people at your club. As a reminder of last year's winners in Wales (2023), please see here.
This year we will be celebrating The Cricket Collective, our local legends across 15 categories. We are also delighted to announce a brand-new category sponsored by Metro Bank – The Metro Bank Champion of Girls’ Cricket – for those championing girls’ cricket at clubs. Closing date for applications is Tuesday 30th July.
The categories are here below - please refer to category descriptors when submitting.
- Coach of the Year
- Connecting Communities
- Inspired to Play
- Metrobank Champion of Girls’ Cricket
- Cricket Innovators
- Growing the Game
- Lifetime Achiever
- Rising Star Award
- Game Changer
- Safe Hands Award
- Volunteer Grounds Management Team of the Year
- Tackling Climate Change
- Young Coach
- Unsung Hero
- Outstanding Contribution Services to Coaching
In more detail: -
- Coach of the Year -A coach who goes the extra mile and is a true coaching hero to their club, league, county or school.
- Connecting Communities – A club or community organisation which has gone above and beyond to #raisethegame and support communities/ groups.
- Inspired to play – An individual or group within your club or community organisation going above and beyond to #raisethegame and open the game up to new audiences.
- The Metro Bank Champion of Girls' Cricket - A volunteer, coach or role model who has championed growing girls’ cricket at their club.
- Cricket Innovators – Someone who has brought new ideas and/or implemented new systems to improve your club or community group.
- Growing the Game - A league volunteer, committee member, or administrator going above and beyond to support clubs and help increase the number of games played.
- Lifetime Achiever – That one individual who has given many years of service to your club or community group and who you could not do without
- Rising Star Award – A young volunteer making a difference in the game – for 11-16-year-olds
- Game Changer – A young volunteer making a difference in the game – for 17-25-year-olds.
- Volunteer Grounds Management Team of the Year – An opportunity to reward and recognise those volunteers who are working hard and improving the places where the game is played.
- Safe Hands Award – An individual that has gone above and beyond to create a positive and inclusive environment for young people to enjoy the game.
- Tackling Climate Change – A club or community organisation that is addressing the threat climate change poses to cricket, by making sustainable changes to operations, adapting their facilities and/or engaging and educating their local community.
- Young Coach of the Year - A young person who is already passing on their enthusiasm for the game and inspiring the next generation of players (16-25-year-olds).
- Unsung Hero – Those heroes who impact our game from behind-the-scenes and help us make cricket happen.
- Outstanding Contribution Services to Coaching - This person is the life and soul at your club, in your league, your county or at your school, coaching and making a difference to players.
Judging Criteria
The criteria differ between each category, but a minimum standard that all nominations must show is outlined below:
- Evidence in the nomination form of the criteria having been achieved
- Evidence that the person has had a positive and sustainable impact on their club / organisation / association
- A demonstration of the volunteer going 'beyond the call of duty' and exceeding expectations for the good of the club/organisation/cricket
- Evidence that the actions of the volunteer have aided the recruitment/retention of players and volunteers within the game
- An on-going commitment to the club/organisation/association and its members
Nominate your unsung hero now using this form:
Cricket Collective Nomination Form
#TheCricketCollective
Daeth hi’n amser ichi enwebu arwyr eich clybiau ...
Mae Gwobrau Criced 2024 ar agor bellach ar gyfer enwebiadau. Yng Nghymru, mi fydd gennym gyfres o enillwyr ar draws y categorïau a restrir isod, yn arwain at Seremoni Wobrwyo Criced Cymru yn gynnar ym Medi 17eg. Yna bydd yr enillwyr o Gymru’n cael eu hanfon ymlaen at Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) fel enwebai ar gyfer gwobrau’r Bwrdd hwnnw.
Heb wirfoddolwyr i wneud i’r gêm ddigwydd, ei chadw’n ddiogel, ei chynnal a’i thyfu, ni fyddai’r gamp yn bodoli. Da chi, ewch ati i enwebu’r bobl arbennig yn eich clwb chi. I’ch atgoffa, mae rhestr o enillwyr y llynedd yng Nghymru (2023) i’w gweld yma.
Eleni byddwn yn dathlu ein harwyr lleol yma yng Nghymru ar draws 15 o gategorïau dan faner gwobrau gwirfoddoli Cricket Collective yr ECB. Rydym hefyd yn falch iawn o gyhoeddi categori newydd sbon, wedi’i noddi gan Metro Bank, sef Hyrwyddwr Criced Merched Metro Bank, i’r rhai sy’n hyrwyddo criced merched mewn clybiau.
Mae’r categorïau i’w gweld yma ac isod – cofiwch gyfeirio at y disgrifiad o’r categori wrth gyflwyno enwebiad.
- Hyfforddwr y Flwyddyn
- Cysylltu Cymunedau
- Ysbrydoli Chwaraewyr
- Hyrwyddwr Criced Merched Metro Bank
- Arloeswyr Criced
- Tyfu’r Gêm
- Cyflawniad Oes
- Gwirfoddolwr Addawol
- Hyrwyddwr Newid
- Gwobr Dwylo Diogel
- Tîm Rheoli Lleiniau Gwirfoddol y Flwyddyn
- Taclo Newid Hinsawdd
- Hyfforddwr Ifanc
- Arwr Di-glod
- Gwasanaeth/Cyfraniad Eithriadol i Hyfforddi
Mwy o fanylion: -
- Hyfforddwr y Flwyddyn– Hyfforddwr sy’n mynd yr ail filltir ac sy’n arwr hyfforddi go iawn i’w glwb, cynghrair, sir neu ysgol.
- Cysylltu Cymunedau– Clwb neu sefydliad cymunedol sydd wedi mynd tu hwnt i’r galw i #wella’rgêm a chefnogi cymunedau/grwpiau.
- Ysbrydoli Chwaraewyr - Unigolyn neu grŵp o fewn eich clwb neu sefydliad cymunedol sydd wedi mynd tu hwnt i’r galw i #wella’rgêm a chyflwyno’r gêm i gynulleidfaoedd newydd.
- Hyrwyddwr Criced Merched Metro Bank - Gwirfoddolwr, hyfforddwr neu unigolyn sy’n gosod esiampl dda, sydd wedi hyrwyddo twf criced merched yn eu clwb.
- Arloeswyr Criced - Rhywun sydd wedi dod â syniadau newydd a/neu wedi rhoi systemau newydd ar waith i wella’ch clwb neu’ch grŵp cymunedol.
- Tyfu’r Gêm – Gwirfoddolwr cynghrair, aelod pwyllgor neu weinyddwr sy’n mynd tu hwnt i’r galw i gefnogi clybiau a helpu i gynyddu nifer y gemau a chwaraeir.
- Cyflawniad Oes - Yr unigolyn hwnnw sydd wedi rhoi blynyddoedd lawer o wasanaeth i’ch clwb neu grŵp cymunedol na allech chi wneud hebddo.
- Gwobr Gwirfoddolwr Addawol – Gwirfoddolwr ifanc sy’n gwneud gwahaniaeth o fewn y gêm – i rai 11-16 oed.
- Hyrwyddwr Newid – Gwirfoddolwr ifanc sy’n gwneud gwahaniaeth o fewn y gêm – i rai 17-25 oed.
- Tîm Rheoli Lleiniau Gwirfoddol y Flwyddyn– Cyfle i wobrwyo a chydnabod y gwirfoddolwyr hynny sy’n gweithio’n galed ac yn gwella’r mannau lle mae’r gêm yn cael ei chwarae.
- Gwobr Dwylo Diogel - Unigolyn sydd wedi mynd tu hwnt i’r galw i greu amgylchedd positif a chynhwysol i bobl ifanc allu mwynhau'r gêm.
- Taclo Newid Hinsawdd– Clwb neu sefydliad cymunedol sy’n mynd i’r afael â’r bygythiad i griced yn sgil y newid yn yr hinsawdd, drwy wneud newidiadau cynaliadwy i ddulliau gweithredu, addasu eu cyfleusterau a/neu addysgu ac ymgysylltu â’u cymuned leol.
- Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn – Person ifanc sydd eisoes yn trosglwyddo ei frwdfrydedd dros y gêm ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr (16-25 oed)
- Arwr Di-glod - Yr arwyr hynny sy’n dylanwadu ar ein gêm o’r tu ôl i’r llenni ac yn ein helpu i wneud i griced ddigwydd.
- Gwasanaeth/Cyfraniad Eithriadol i Hyfforddi – Yr unigolyn hwn yw calon ac enaid eich clwb, eich cynghrair, eich sir neu eich ysgol, yn hyfforddi ac yn gwneud gwahaniaeth i chwaraewyr.
Meini Prawf Dyfarnu
Mae’r meini prawf yn wahanol ar gyfer pob categori, ond amlinellir y safon ofynnol ar gyfer pob enwebiad isod:
- Tystiolaeth yn y ffurflen enwebu bod y meini prawf wedi’u bodloni
- Tystiolaeth bod yr unigolyn wedi cael effaith bositif a chynaliadwy ar ei glwb/sefydliad
- Enghreifftiau o’r gwirfoddolwr yn ‘mynd tu hwnt i’r galw’ a thu hwnt i’r disgwyliadau er budd y clwb/sefydliad/criced
- Tystiolaeth bod gweithredoedd y gwirfoddolwr wedi cynorthwyo i recriwtio/cadw chwaraewyr a gwirfoddolwyr o fewn y gêm
- Ymrwymiad parhaus i’r clwb/sefydliad a’i aelodau
Enwebwch eich arwr di-glod nawr gan ddefnyddio’r ffurflen hon:
Ffurflen Enwebu Cricket Collective
#TheCricketCollective