11th September 2015
| Mallory Gray
Top young cricketers have
received their Cricket Wales player of the month awards for outstanding
performances with bat, ball and gloves.
The 2015 awards were given in a single end-of-season presentation at The SSE SWALEC (formerly SWALEC
Stadium), during a Glamorgan County Cricket Club match.
Winners were:
May/ June
Tom Bevan (Wales U15 boys)
Tom (Cardiff and Vale) was away
at Millfield School and unable to attend the presentation, but received the
award for scores of 54 and 30 against Yorkshire in a two day game and 61
against Warwickshire, as well as his captaincy of the U15s.
Charlotte Scarborough (Wales U15
girls, U17 girls, and Wales women)
At 14 all-rounder Charlotte (Gwent)
made her senior debut in May taking 2 for 27 off 7 overs.
Charlotte also scored a match-winning 58
against Cornwall U17 and another match-winning 45 not out against Millfield School.
Charlotte scored 163 runs in May and June, took 9 wickets and was outstanding
in the field. She was recently invited to the England U19 development day at
Loughborough
July
Alex Horton (Wales U11 boys)
Alex (Gwent) hit scores of 81 against Warwickshire, 113 not out against
Yorkshire, 167 not out against Staffordshire, 51 not out against
Gloucestershire, 59 against Worcestershire,
and 75 not out against Kent. He also
displayed top-class wicket keeping.
Jessica Thornton (Wales U15 and
U17 girls)
Jessica (Gwent) bowled
exceptionally well during the month of July taking 27 wickets at the cost of
just 9 runs apiece. She took 4 for 14 against Somerset U17, and the next day 4
for 34 v Somerset U15. Her best performance in the Taunton U17 festival where
she took 5 for 4 when Wales were defending 125 against Kent. Wales ended up
dismissing Kent for 72 and winning by 53 runs. All this came after recovering
from a broken thumb earlier in the season.
August / September
Kiran Carlson (Wales U17 boys)
Kiran (Cardiff and Vale) scored
77 against Gloucestershire and 111 against Hampshire in the ECB U17 competition.
He then went on to score 73 and 39 for the West of England at the super 4 competition
at Loughborough, followed by a brilliant 150 for Glamorgan 2nds against
Leicestershire.
Lori Matthews (Wales U13 girls)
All-rounder Lori (Gwent) scored
62 out of a century partnership, which helped Wales to victory over Cornwall at
the Malvern festival, also a very good 48 against Leinster, as well as taking 2
wickets for 5 runs against Kent
“We have seen some exceptional
performances from many of our young players this year,” said Cricket Wales
performance manager, John Derrick. “The
award-winners are a real inspiration and a reminder of the impressive talent
pool we have in Welsh cricket.”
Gwobrwyo cricedwyr
ifanc
Mae nifer o gricedwyr ifanc
addawol wedi derbyn gwobrau chwaraewr y mis Criced Cymru am eu perfformiadau
penigamp ar y meysydd criced.
Cyflwynwyd gwobrau 2015 mewn un seremoni
gynhwysfawr ar ddiwedd y tymor yn SSE SWALEC (Stadiwm SWALEC gynt), yn ystod un
o gemau Clwb Criced Morgannwg.
Dyma’r enillwyr:
Mai/Mehefin
Tom Bevan (Bechgyn D15 Cymru)
Roedd Tom (Caerdydd a’r Fro) i ffwrdd yn Ysgol
Millfield felly methodd â mynychu’r seremoni, ond derbyniodd y wobr am sgorau o
54 a 30 yn erbyn Swydd Efrog mewn gêm ddeuddydd a 61 yn erbyn Swydd Warwig, yn
ogystal â'i gapteniaeth o’r tîm D15.
Charlotte Scarborough (Merched
D15 a D17 Cymru, a Merched Cymru)
Yn 14 oed chwaraeodd Charlotte (Gwent) i’r tîm
merched hyn am y tro cyntaf ym mis Mai gan gymryd 2 am 27 oddi ar 7
pelawd. Hefyd sgoriodd 58 i ennill y gêm
yn erbyn tîm D17 Cernyw a chafodd sgôr arall o 45 heb fod allan i ennill y gêm
yn erbyn ysgol Millfield. Sgoriodd
Charlotte 163 o rediadau ym Mai a Mehefin, cipiodd 9 wiced ac roedd ei sgiliau maesu’n
benigamp. Yn ddiweddar fe’i gwahoddwyd i
ddiwrnod datblygu tîm D19 Lloegr yn Loughborough.
Gorffennaf
Alex Horton (Bechgyn D11 Cymru)
Sgoriodd Alex (Gwent) 81 yn
erbyn Swydd Warwig, 113 heb fod allan yn erbyn Swydd Efrog, 167 heb fod allan
yn erbyn Swydd Stafford, 51 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerloyw, 59 yn erbyn
Swydd Gaerwrangon, a 75 heb fod allan yn erbyn Caint. Roedd ei sgiliau cadw wiced o’r radd flaenaf
hefyd.
Jessica Thornton (Merched D15 a
D17 Cymru)
Bowliodd Jessica (Gwent) yn arbennig o dda yn
ystod mis Gorffennaf gan gipio 27 wiced ar gyfartaledd o 9 rhediad yr un yn
unig. Cymerodd 4 am 14 yn erbyn tîm D17
Gwlad yr Haf, a’r diwrnod canlynol 4 am 34 yn erbyn tîm D15 Gwlad yr Haf. Rhoddodd ei pherfformiad gorau yng ngwyl D17
Taunton pan gymerodd 5 wiced am 4 rhediad
ar ôl i Gymru
sgorio 125 yn erbyn Caint. Yn y diwedd bowliodd Cymru Gaint allan am 72
gan ennill o 53 rhediad. Llwyddodd
Jessica i wneud hyn i gyd er iddi dorri asgwrn ei bawd yn gynharach yn y tymor.
Awst / Medi
Kiran Carlson (Bechgyn D17
Cymru)
Sgoriodd Kiran (Caerdydd a’r
Fro) 77 yn erbyn Swydd Gaerloyw ac 111 yn erbyn Hampshire yng nghystadleuaeth
D17 yr ECB. Aeth ymlaen i sgorio 73 a 39
dros dîm Gorllewin Lloegr yng nghystadleuaeth y Super 4 yn Loughborough, ac yna
cafodd sgôr gwych o 150 i ail dîm Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerlyr.
Lori Matthews (Merched D13
Cymru)
Sgoriodd Lori (Gwent) 62 mewn partneriaeth o gant a helpodd Cymru i drechu Cernyw yng
ngwyl Malvern, hefyd cafodd sgôr da iawn o 48 yn erbyn Leinster, yn ogystal â
chipio dwy wiced am bum rhediad yn erbyn Caint.
“Rydym wedi gweld rhai
perfformiadau ardderchog gan nifer o’n chwaraewyr ifanc eleni,” meddai rheolwr
perfformiad Criced Cymru, John Derrick.
“Mae enillwyr y gwobrau’n ysbrydoliaeth go iawn ac yn tystio i’r llu o
ddoniau sydd gennym yn y byd criced yng Nghymru.”