Wales U17s Reach a National Final

|




The U17 Team

Cricket Wales U17s boys reached the semi-finals of two national England and Wales Cricket Board (ECB) competitions.

Wales U17s reach final

Cricket Wales U17s boys team will face Lancashire in the ECB (England and Wales Cricket Board) national one-day final at Kibworth in Leicestershire on Sunday (August 31), after a superb semi-final win over Essex.

The visitors reached 309-9 in their 50 overs at Ebbw Vale, with Sam Pearce (Mid Glamorgan) leading the Welsh attack with figures of 3-40, as well as a catch and run-out.

 Wales achieved their target on the first ball of the final over, ending on 311-7. Three Wales players got their half-century: Gareth Ansell (Gwent) (51), Jack Thorpe-Yon (Gwent) (51) and Keiran Carlson (Cardiff and Vale) (50). Lukas Carey (West Glamorgan) just missed out – hitting the winning boundary to end the match on 49 not out.

 “This is a fantastic achievement by the under-17s,” said Cricket Wales performance manager John Derrick. “They also reached the semi-final of the two-day competition, so this really caps a superb season.”


In this 50-over one-day ECB Cup, they  recorded victories in all their matches against Gloucestershire, Devon, Hampshire and Somerset, and progressed to the semi-finals against Essex, at Ebbw Vale CC on Sunday 24 August and described above.

They beat Devon by 109 runs at Sidmouth – posting 250 runs for 9 off their 50 overs before the hosts were all-out for 141 in 45.5 overs. Lukas Carey (West Glamorgan) was top scorer with 84, while Oliver Pike (Cardiff and Vale) took 4-24 and Connor Brown (Cardiff and Vale) 3-14.

Wales beat Hampshire by 88 runs at Ebbw Vale, after scoring 245-9 in 50 overs, and getting Hampshire all-out for 157. Joe Voke (Gwent) was top scorer with 55, while Connor Brown (3-13) and Oliver Pike (3-24) were again the pick of the bowlers.

The U17s also beat Coventry and District Schools by 195 runs. Wales were 356 all-out, with Coventry reaching 161 in reply. Keiran Carlson (Cardiff and Vale) was high scorer with 129, while Jamie Mills (Cardiff and Vale) was leading bowler with 3-26.

A match against British Fire Brigades at Ebbw Vale was abandoned due to rain, after Wales scored 222-9 in 45 overs, before the firefighters reached 7-0 in reply. Jamie Mills was Wales’ top scorer with 61.

The U17s also completed the group stages of the Two Day ECB Championship.  After a draw in the opening rain-affected match against Gloucestershire, they gained victories against Devon, Hampshire and Somerset.  As in the Cup competition, they progress to the semi-final stage which will be played at Pentrych CC on Tuesday 19 and Wednesday 20 August.

Wales beat Hampshire on the first innings score, thanks to a total of 300-5 against Hampshire’s 207 all-out. Scot Thornton (Gwent) scored 116, while Steffan James (Pembrokeshire) took 2-17. They also beat Somerset on their first innings score – Wales scoring 217, and Somerset 198. Wales top scorer was Sam Pearce (Mid Glamorgan) (56), while Oliver Pike was top bowler with 4-28.

The U12s beat Worcestershire by three wickets at Panteg. Tegid Phillips (Cardiff and Vale) took 3-21 and Callum Collins-Davies (Carmarthenshire) 3-26, as Wales restricted the visitors to 140 all-out – a total they passed with two wickets to spare, thanks in large part to 59 by Jayden Goodwin (Cardiff and Vale).   They also beat Surrey by 58 runs at Esher – Wales scoring 144-4 in 40 overs, and Surrey reaching 86 all-out in reply. James Archer (Gwent) was Wales’ top batter with 51 not out, while Ben Davies (Gwent) was the star bowler with 4-10.  However, they lost by 10 runs to Middlesex at Radley School. The hosts scored 166-7 in their 40 overs, with Ben Davies again the top bowler (5-39). An 81-run partnership between Ryan Scrivens (Gwent) and Efan Davies (West Glamorgan), put Wales in a match winning position at 130-5, with six overs to go. However, the Middlesex opening bowlers returned to the attack, and Wales fell short. They went on to beat Oxford by 27 runs, despite reaching only 110 all-out. Matt Jones (Eryri) (4-10) and Ben Davies (4-15) helped to skittle the hosts out for 83 in 36 overs.

“Our teams have really produced some excellent performances in recent weeks,” said Cricket Wales performance manager John Derrick. “The U17s in particular deserve huge praise for reaching the semi-finals of two competitions. “Sponsorship from Gray Nicholls and LV is a tremendous help, and thanks also goes to Pentrych CC, Ebbw Vale CC and Neath CC for their support in providing playing facilities for the boys during the ECB competition matches.”

Tîm Dan 17 Cymru’n cyrraedd dwy rownd gynderfynol

Mae tîm bechgyn Dan 17 Criced Cymru wedi cyrraedd rowndiau cynderfynol dwy o gystadlaethau cenedlaethol Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB).

Yng Nghwpan 50-pelawd undydd yr ECB, roeddent yn fuddugol yn eu holl ornestau yn erbyn Swydd Gaerloyw, Dyfnaint, Hampshire a Gwlad yr Haf, a byddant yn chwarae yn y rownd derfynol yn erbyn Essex yng Nghlwb Criced Glynebwy ar ddydd Sul 24 Awst.

Curon nhw Ddyfnaint o 109 o rediadau yn Sidmouth - gan sicrhau 250 o rediadau am 9 oddi ar eu 50 pelawd cyn i’r tîm cartref fod i gyd allan am 141 mewn 45.5 pelawd.  Lukas Carey (Gorllewin Morgannwg) a gafodd y sgôr uchaf gydag 84, gydag Olive Pike (Caerdydd a’r Fro) yn cipio 4 wiced am 24 rhediad a Connor Brown (Caerdydd a’r Fro) 3 am 14.

Curodd Cymru Hampshire o 88 o rediadau yng Nglyn Ebwy, ar ôl sgorio 245-9 mewn 50 pelawd, gan fowlio Hampshire i gyd allan am 157.  Joe Voke (Gwent) a gafodd y sgôr uchaf, ac unwaith eto  Connor Brown (3-13) ac Oliver Pike (3-24) oedd y bowlwyr mwyaf llwyddiannus.

Hefyd curon nhw Ysgolion Cofentri a’r Fro o 195 o rediadau.  Roedd Cymru 356 i gyd allan, gyda Chofentri’n cyrraedd 161 mewn ymateb.  Keiran Carlson (Caerdydd a’r Fro) a gafodd y sgôr uchaf gyda 129, a Jamie Mills (Caerdydd a’r Fro) oedd y bowliwr gorau gyda 3-26.

Bu’n rhaid rhoi’r gorau i chwarae oherwydd y glaw yn yr ornest yn erbyn Brigâd Dân Prydain yng Nglyn Ebwy, ar ôl i Gymru sgorio 222-9 mewn 45 pelawd, cyn i’r diffoddwyr tân gyrraedd 7-0 mewn ymateb.  Jamie Mills oedd y sgoriwr uchaf gyda 61.

Hefyd, cwblhaodd y tîm Dan 17 rowndiau grwpiau Pencampwriaeth Deuddydd yr ECB.  Yn dilyn sgôr cyfartal yn yr ornest gyntaf yn erbyn Swydd Gaerloyw, a effeithiwyd gan y glaw, roeddent yn fuddugol yn erbyn Dyfnaint, Hampshire a Gwlad yr Haf.  Fel yng nghystadleuaeth y Cwpan, maent yn mynd ymlaen i’r rownd gynderfynol, a chwaraeir yng Nghlwb Criced Pentyrch ar Ddydd Mawrth 19 a Dydd Mercher 20 Awst.

Curodd Cymru Hampshire ar sgôr y batiad cyntaf, diolch i gyfanswm o 330-5 yn erbyn y 207 i gyd allan gan Hampshire.  Sgoriodd Scot Thornton (Gwent) 116, a chymerodd Steffan James (Sir Benfro) 2-17.

Curon nhw Gwlad yr Haf hefyd gyda sgôr eu batiad cyntaf – gyda Chymru’n sgorio 217, a Gwlad yr Haf 198.  Sgoriwr uchaf Cymru oedd Sam Pearce (Morgannwg Ganol) (56) ac Oliver Pike oedd y bowliwr gorau gyda 4-28. 

Curodd y tîm Dan 12 Swydd Gaerwrangon o dair wiced ym Mhanteg.  Cymerodd Tegid Phillips (Caerdydd a’r Fro) 3-21 a Callum Collins-Davies (Sir Gâr) 3-26, wrth i Gymru gyfyngu’r ymwelwyr i 140 i gyd allan – cyfanswm a gawsant gyda dwy wiced i’w sbario, diolch yn bennaf i 59 gan Jayden Goodwin (Caerdydd a’r Fro).

Hefyd, curon nhw Surrey o 58 o rediadau yn Esher – gyda Chymru’n sgorio 144-4 mewn 40 pelawd, a Surrey’n cyrraedd 86 i gyd allan mewn ymateb.  James Archer (Gwent) oedd batiwr gorau Cymru gyda 51 heb fod allan, a Ben Davies (Gwent) oedd y bowliwr gorau gyda 4-10.

Ond colli wnaethon nhw o 10 rhediad i Middlesex yn Ysgol Radley.  Sgoriodd y tîm cartref 166-7 yn eu 40 pelawd, gyda Ben Davies yn fowliwr gorau unwaith eto (5-39).  Yn dilyn partneriaeth o 81 rhediad rhwng Ryan Scrivens (Gwent) ac Efan Davies (Gorllewin Morgannwg), roedd Cymru mewn sefyllfa i ennill yr ornest ar 130-5, gyda chwe phelawd i fynd.  Fodd bynnag, dychwelodd bowlwyr cyntaf Middlesex gan drechu tîm Cymru.

Aethant ymlaen i guro Rhydychen o 27 rhediad, serch sgorio 110 i gyd allan yn unig.  Helpodd Matt Jones (Eryri) (4-10) a Ben Davies (4-15) i lorio’r ymwelwyr am 83 mewn 36 pelawd.

“Mae ein timau wedi rhoi perfformiadau gwych yn ystod yr wythnosau diwethaf,” meddai rheolwr perfformiad Criced Cymru John Derrick.  “Mae’r tîm Dan 17 yn arbennig yn haeddu canmoliaeth uchel am gyrraedd rowndiau terfynol dwy gystadleuaeth.

“Mae nawdd gan Gray Nicholls ac LV yn gymorth aruthrol, a hoffem ddiolch hefyd i Glwb Criced Pentyrch, Clwb Criced Glynebwy, a Chlwb Criced Castell Nedd am eu cefnogaeth yn darparu cyfleusterau chwarae i’r bechgyn yn ystod gornestau cystadleuol yr ECB.”
Share

Official Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play