Wales U17s Miss Out on Finals Honours

|



Cricket Wales U17s boys missed out on honours in the England and Wales Cricket Board (ECB) one-day final.

Having beaten Essex to secure their place in the final, they faced powerful Lancashire at Kibworth in Leicestershire.

Lancashire reached 200-9, with Keiran Carlson (Cardiff and Vale) taking 3-32.  In reply, Wales were all-out for 176, with opener Joe Voke (Gwent) top-scorer on 42.

Previously, in the two-day competition, they lost to Surrey by 8 runs at Pentyrch, reaching 330 all-out, in reply to the visitors 338. Jack Thorp-Yon (Gwent) took 3-20 and was also top batsman with 96. Joe Voke and Connor Brown (Cardiff and Vale) both scored 62, while bowler Lukas Carey took 3-44.

Wales boys defeated Cheshire at Crewe Vagrants CC, scoring 344-7 in the first innings and 202 all-out in the second. Cheshire reached 238-7 and 123-7 in reply. Alistair Andrady (North East Wales) scored 125 in the first innings, including 11 fours and six sixes, while Scott Thomas (West Glamorgan) was top scorer in the second innings with 43. Among the bowlers, Keiran Carlson took 3-27 in the first innings and Steffan Roberts (Mid Glamorgan) 2-30 in the second.

The match against Somerset at Lansdowne was abandoned because of rain, after Wales had scored 168-8 in their 40 overs.  Opener Joe Voke was top scorer with 40 from 81 balls. And the match against Dorset at Stalbridge was called off, again due to rain, without a ball bowled.      

“We can reflect on some real successes by our various age-group teams this season,” said Cricket Wales performance manager John Derrick. “The U17s not only reached the one-day final, but the semi-final of the ECB two-day championship, which is a fantastic achievement.”

Cyfle coll i Dîm Dan 17 Cymru Collodd

Tîm Bechgyn Dan 17 Criced Cymru gyfle i gipio’r teitl yng ngêm undydd derfynol Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB).

Ar ôl curo Essex i sicrhau eu lle yn y rownd derfynol, mi ddaethon nhw wyneb yn wyneb â thîm grymus Swydd Gaerhirfryn yn Kibworth yn Swydd Gaerlyr.

Cyrhaeddodd Swydd Gaerhirfryn 200-9, gyda Keiran Carlson (Caerdydd a’r Fro) yn cymryd 3-32.

Mewn ymateb, roedd Cymru i gyd allan am 176, gyda’r agorwr Joe Voke (Gwent) yn cael y sgôr uchaf, sef 42.

Cyn hynny, yn ystod y gêm ddeuddydd, collon nhw i Surrey o 8 rhediad ym Mhentyrch, gan gyrraedd 330 i gyd allan, mewn ymateb i 338 yr ymwelwyr.

Cymerodd Jack Thorp-Yon (Gwent) 3 wiced am 20 rhediad ac ef hefyd oedd y batiwr gorau gyda 96. Sgoriodd Joe Voke a Connor Brown (Caerdydd a’r Fro) 62 ill dau, a chymerodd Lukas Carey 3 wiced am 44 rhediad.  

Trechodd bechgyn Cymru Swydd Gaer yng Nghlwb Criced Vagrants yn Crewe, gan sgorio 344-7 yn eu batiad cyntaf a 202 i gyd allan yn yr ail fatiad. Sgoriodd Swydd Gaer 238-7 a 123-7 mewn ymateb.  

Sgoriodd Alistair Andrady (Gogledd Ddwyrain Cymru) 125 yn y batiad cyntaf, gan daro’r ffin 11 tro a tharo’r bêl dros y ffin chwe gwaith.  Scott Thomas (Gorllewin Morgannwg) a gafodd y sgôr uchaf yn yr ail fatiad, gyda 43.

O blith y bowlwyr, cipiodd Keiran Carlson dair wiced am 27 rhediad yn y batiad cyntaf a Steffan Roberts (Morgannwg Ganol) 2-30 yn yr ail fatiad.

Ond bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r chwarae yn yr ornest yn erbyn Gwlad yr Haf yn Lansdowne oherwydd y glaw, wedi i Gymru sgorio 168-8 yn eu 40 pelawd.  Yr agorwr Joe Voke a gafodd y sgôr uchaf, gyda 40 oddi ar 81 o beli.  Hefyd bu’n rhaid canslo’r gêm yn erbyn Dorset yn Stalbridge, unwaith eto oherwydd y glaw, heb fowlio’r un bêl.  

“Gallwn edrych yn ôl ar rai llwyddiannau go iawn gan ein timau oedran gwahanol y tymor hwn,” meddai rheolwr perfformiad Criced Cymru John Derrick.  “Cyrhaeddodd y Tîm Dan 17 nid yn unig y gêm undydd derfynol, ond rownd gynderfynol pencampwriaeth deuddydd yr ECB, sy’n gamp wych.”
Share

Offical Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play