Wales U12s Win Taunton Festival

|


The Victorious Wales U12 Team – Taunton Festival Winners (2014)

Wales U12 Squad Teg Phillips (Capt), Jayden Goodwin (V. Capt), James Archer, Nathan Berry, Morgan Bevans, Callum Collins-Davies, Robbie Crawford, Ben Davies, Efan Davies, Ethan Griffiths, Sam Jardine, Matt Jones, Jac Kennedy, Owen Reilly, Ryan Scrivens, Harri Turner.

Wales U12 v Somerset

A measure of the improvement in the Wales batting was clearly evident in this match. Having been 1-6 wickets earlier in the season against Somerset before being bowled out for a paltry 33, Wales made an excellent 171-3, with Jayden Goodwin top scoring with 77 not out, ably supported by Matt Jones 30. The Wales bowlers were determined to get revenge for the early season defeat and Callum Collins-Davies took 2 early wickets, including that of the highly rated Will Smeed for 12, well caught by Robbie Crawford. Only S. Reed with 33 offered any real resistance as the Welsh spinners Teg Phillips 2-16, Ben Davies 2-17 bowled miserly spells, reducing Somerset to 116 all out. Wales won by 55 runs and picked up 17 Festival points.

Wales U12 v Worcestershire

Match abandoned without a ball being bowled. Wales gained 4 Festival points.

Wales U12 v Essex

On a rain affected wicket, the Welsh seam bowlers bowled too short and too many boundary balls (19), allowing Essex to score 154-9. Sam Jardine 3-24 and Teg Phillips 2-33 were the main wicket takers, with Ben Davies 1-16 and Jayden Goodwin 1-18 bowling economically. In reply, Jayden Goodwin was dismissed in the first over and Wales never recovered. Opener Jac Kennedy with a painstaking 29 not out batted throughout the Wales innings to leave Wales on 117-7 at the close. Wales hung on for a losing draw to pick up 9 Festival points.

Wales U12 v Yorkshire

On a damp wicket, Wales were put into bat and found runs very difficult to come by, scoring 130-5 from the allotted 50 overs against a very good Yorkshire bowling attack, which was backed up by some outstanding fielding. Jayden Goodwin was the pick of the Wales batsmen with a hard earned 52 not out, batting throughout the innings, being well supported by James Archer who scored 36. In reply the Yorkshire batsmen found runs equally difficult to come by with all of the Welsh bowlers bowling well. But at 101-4 off 31 overs it looked as though Yorkshire would gain a comfortable win. However, the wicket of Revis for 39 in Phillips’ last over changed the game. Left arm spinner Ben Davies took two further quick wickets and the introduction of off spinner Harri Turner, who took a match winning 4-14 from 8 overs turned the game completely on its head. Wales eventually bowling Yorkshire all out for 120, with the last 6 wickets falling for just 19 runs. It was the Wales spinners who won the day with Harri Turner 4-14, Ben Davies 2-40, Teg Phillips 2-15 and Jayden Goodwin 1-36 bowling very good spells. The 15 run win saw Wales pick up 16 Festival points. This was undoubtedly the best performance of the season.

Wales U12 v Cornwall

Needing to gain maximum points from their final match to win the Festival, it was important that the Wales team remained focused after a long week. They didn’t disappoint, bowling Cornwall all out for 95 in 37.3 of the 40 allotted overs. Jayden Goodwin 3-9, Callum Collins-Davies 2-15 and Sam Jardine 2-22 being the pick of the bowlers, with 2 run outs. In reply, openers Jayden Goodwin (44n.o) and Matt Jones (41n.o) had little difficulty in securing a 10 wicket win. The win gave Wales a maximum 18 points, to win the Taunton Festival for the first time.

Winning the Taunton Festival was a fantastic achievement and was reward for the effort and hard work that the boys had put in throughout the season. 

Tîm Dan 12 Cymru’n ennill Gwyl Taunton

Mae Tîm Criced Bechgyn Dan 12 Cymru wedi ennill Gwyl  fawreddog Taunton, gan drechu Swydd Efrog, Gwlad yr Haf a Chernyw i gipio’r teitl.

“Mae hwn yn gyflawniad aruthrol ac yn wobr i’r bechgyn am eu holl ymdrechion a gwaith caled trwy gydol y tymor,” meddai hyfforddwr y tîm Mike Knight.  “Y fuddugoliaeth yn erbyn Swydd Efrog yn ddiamau oedd perfformiad gorau’r tîm am y flwyddyn.”

Cymru D12 yn erbyn Gwlad yr Haf

Gwelwyd i ba raddau mae batio Cymru wedi gwella yn ystod yr ornest hon.  Ar ôl sgorio un rhediad am chwe wiced yn gynharach yn y tymor yn erbyn Gwlad yr Haf, cyn cael eu bowlio allan am 33 pitw, sgoriodd Cymru 171-3 gwych, gyda Jayden Goodwin â’r sgôr uchaf o 77 heb fod allan, gyda chymorth medrus Matt Jones (30).

Roedd bowlwyr Cymru’n benderfynol o ddial am gael eu trechu’n gynnar yn y tymor a chymerodd Callum Collins-Davies ddwy wiced gynnar, gan gynnwys un y chwaraewyr dawnus, Will Smeed am 12, a ddaliwyd yn fedrus gan Robbie Crawford.  Dim ond S.Reed gyda 33 a lwyddodd i wrthsefyll yr ymosodwyr mewn gwirionedd wrth i droellwyr Cymru, Teg Phillips 2-16, Ben Davies 2-17, fowlio’n dynn iawn, gan olygu mai dim ond 116 i gyd allan oedd cyfanswm Gwlad yr Haf.  Enillodd Cymru o 55 rhediad a chasglu 17 o bwyntiau’r Wyl.

Cymru D12 yn erbyn Swydd Gaerwrangon
 
Canslwyd yr ornest heb fowlio’r un bêl.  Cafodd Cymru 4 o bwyntiau’r Wyl.

Cymru D12 yn erbyn Essex

Bowliodd sêm-fowlwyr Cymru’n rhy fyr a chael eu taro at y ffin yn rhy aml (19 tro) gan ganiatáu i Essex sgorio 154-9 ar wiced a effeithiwyd gan y glaw.  Sam Jardine (3-24) a Teg Phillips (2-33) a gymerodd y mwyaf o wicedi, gyda Ben Davies (1-16) a Jayden Goodwin (1-18) yn bowlio’n gynnil.

Mewn ymateb, cafwyd Jayden Goodwin allan yn y belawd gyntaf a methodd Cymru â dod yn ôl i’r gêm.  Batiodd yr agorwr Jac Kennedy yn bwyllog trwy gydol y batiad gan sgorio 29 heb fod allan i adael Cymru ar 117-7.  Daliodd Cymru ati gan osgoi cael eu bowlio allan a chasglu 9 o bwyntiau’r Wyl.

Cymru D12 yn erbyn Swydd Efrog

Gofynnwyd i Gymru fatio’n gyntaf ar lain laith, a chawsant hi’n anodd iawn i sgorio gan gyrraedd 130-5 o’u  50 pelawd yn sgil bowlio da iawn a maesu rhagorol gan Swydd Efrog.  Jayden Goodwin oedd batiwr gorau Cymru, gan frwydro’n galed trwy gydol y batiad i sgorio 52 heb fod allan, gyda chefnogaeth dda gan James Archer, a sgoriodd 36.

Mewn ymateb, cafodd batwyr Swydd Efrog hi'r un mor anodd i gael rhediadau, gyda holl fowlwyr Cymru’n bowlio’n dda.  Roedd hi’n edrych fel petai Swydd Efrog am ennill yn gyfforddus pan oedd y sgôr yn 101-4 ar ôl 31 pelawd.  Fodd bynnag, newidiodd y gêm pan lwyddodd Phillips i gael Revis allan am 39 yn ei belawd olaf.  

Cymerodd y troellwr llaw chwith Ben Davies ddwy wiced gyflym arall, a throwyd y gêm wyneb i waered pan gipiodd  y troellwr llaw dde Harri Turner bedair wiced am 14 rhediad oddi ar 8 pelawd.  Yn y pen draw  bowliodd Cymru Swydd Efrog i gyd allan am 120, gyda’r chwe wiced olaf yn disgyn am 19 rhediad yn unig.  Troellwyr Cymru a seliodd y fuddugoliaeth  gyda Harri Turner 4-14, Ben Davies 2-40, Teg Phillips 2-15, a Jayden Goodwin 1-36, yn bowlio’n dda iawn.  Yn sgil y fuddugoliaeth o 15 rhediad, casglodd Cymru 16 o bwyntiau’r Wyl.

Cymru D12 yn erbyn Cernyw

Am fod angen iddyn nhw gael y mwyaf posib o bwyntiau o’u gornest derfynol i ennill yr Wyl, roedd hi’n bwysig bod tîm Cymru’n dal ati i ganolbwyntio ar ôl wythnos hir.  A dyna a wnaethant, gan fowlio Cernyw i gyd allan am 95 mewn 37.3 o’u 40 pelawd.  Jayden Goodwin (3-9), Callum Collins-Davies (2-15) a Sam Jardine (2-22) oedd y bowlwyr gorau, gyda dau rediad allan.  Mewn ymateb, ni chafodd yr agorwyr Jayden Goodwin (44 h.f.a.) a Matt Jones (41 h.f.a.) fawr o drafferth sicrhau buddugoliaeth o 10 wiced.  Rhoddodd y fuddugoliaeth yr uchafswm o 18 o bwyntiau i Gymru, gan olygu eu bod wedi ennill Gwyl Taunton am y tro cyntaf erioed.

 “Mae pawb yn Criced Cymru wrth eu boddau gyda’r canlyniad,” meddai prif weithredwr Criced Cymru Peter Hybart.  “Mae Gwyl Taunton yn ddigwyddiad pwysig a hynod o gystadleuol, ac mae’r llwyddiant hwn yn un gwirioneddol arwyddocaol.”
Share

Offical Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play