Wales U11s are runners up at Taunton Festival

|

Wales’ U11 boys cricket team finished a close second in the prestigious Taunton Festival.

Their impressive result follows the success of Wales U17 girls and U12 boys, who both won their age group championships at Taunton.

 

 

 

The U11s lost a pre-festival warm-up game to Kent by five wickets, but opened the competition itself with a win over Barbados, as Wales passed their opponents’ total of 150 all-out for the loss of five wickets.   

 

Next day, Wales lost by three wickets to Middlesex – Wales’ total of 172-4 proving insufficient.

 

In the match against Devon, Wales posted 168-3 in an innings reduced to 30 overs, but the match was abandoned as a draw, with Devon on 13-0.

 

Wales scored 160 – 9 against Bucks for a winning draw, with Bucks  reaching 77 – 9 in reply, and in the final match, Wales beat Yorkshire by three wickets to finish just behind them in the final table.

 

Final places:

1. Yorkshire = 62

2. Wales      = 59

3. Barbados = 57

4. Middlesex = 46

5. Devon       = 27

6. Bucks       = 13

 

This was the second year running that Wales has finished runners-up to Yorkshire, but this year’s margin of just three points was much closer.

By the end of the week, Alex Horton (Gwent) had scored a total of 1,006 runs in the U11s games this season, a new Wales U11s batting record.

 

“This was another great achievement for one of our age-group teams,” said Cricket Wales performance manager, John Derrick. “The U11s really hit form at the right time, as they started the season with four straight defeats.

 

 

“Congratulations to Alex on a tremendous batting achievement, and to the whole team and management for turning their season around so conclusively.”

Tîm D11 Cymru’n dod yn ail yng Ngwyl Taunton

 

 

 

Daeth tîm criced bechgyn D11 Cymru’n ail agos yng Ngwyl Taunton.

 

 

 

Mae’r canlyniad gwych hwn yn dod yn dynn ar sodlau llwyddiant tîm merched D17 a thîm bechgyn D12 Cymru,  ill dau’n fuddugol ym mhencampwriaethau’u grwpiau oedran yn Taunton.

 

 

 

Collodd y tîm o bum wiced mewn gêm gyfeillgar cyn yr wyl yn erbyn Caint, ond dechreuodd y tîm y gystadleuaeth ei hun gyda buddugoliaeth dros Barbados, wrth i Gymru ragori ar gyfanswm eu gwrthwynebwyr o 150 i gyd allan, gan golli pum wiced.

 

 

 

Y diwrnod canlynol, collodd Gymru o dair wiced i Middlesex – gyda chyfanswm annigonol o 172-4.

 

 

 

Yn y gêm yn erbyn Dyfnaint sgoriodd Cymru 168-3 mewn batiad a gyfyngwyd i 30 pelawd, ond bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r gêm  a’i chofnodi fel un gyfartal, gyda Dyfnaint ar 13-0.

 

 

 

Sgoriodd Cymru 160–9 yn erbyn Swydd Buckingham gan ennill y nifer mwyaf o bwyntiau mewn gêm gyfartal , gyda Swydd Buckingham yn ymateb gyda 77–9, ac yn y gêm derfynol, curodd Cymru Swydd Efrog o dair wiced gan ddod yn ail agos iddyn nhw yn y tabl terfynol.

 

 

 

Safleoedd terfynol:

 

1. Swydd Efrog = 62

 

2. Cymru      = 59

 

3. Barbados = 57

 

4. Middlesex = 46

 

5. Dyfnaint       = 27

 

6. Swydd Buckingham       = 13

 

 

 

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Gymru ddod yn ail i Swydd Efrog, ond roedd hi’n fwy clos eleni, gyda dim ond tri phwynt rhyngddyn nhw.

 

Erbyn diwedd yr wythnos, roedd Alex Horton (Gwent) wedi sgorio cyfanswm o 1,006  o rediadau yn y gemau D11 y tymor hwn, sef y cyfanswm batio uchaf erioed i dîm D11 Cymru.

“Roedd hon yn gamp wych arall i un o’n timau grwpiau oedran,” meddai rheolwr perfformiad Criced Cymru,  John Derrick. “Roedd y tîm D11 ar eu gorau ar yr adeg iawn, oherwydd mi ddechreuon nhw’r tymor drwy golli pedair gwaith o’r bron.

 

“Llongyfarchiadau i Alex ar ei fatio penigamp, ac i’r tîm cyfan a’r rheolwyr am y newid pendant er gwell yn ystod y tymor.”

 

 

 


 
Share

Official Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play