Wales girls score hat-trick of ties

|



The girls tied their games with Hampshire, Gloucestershire and Somerset to create a very unusual cricketing hat-trick.

The U13 boys got their season off to a belated start with a narrow defeat by Lancashire at Shrewsbury. Wales reached a slightly below-par 140-8 off 45 overs before Lancashire got to 142-7 with seven balls to spare. Connor Davies (North East Wales) followed a useful batting display (33) with some controlled spin which returned figures of 18-1 from nine overs.

The U13s followed this with a nail-biting match against Staffordshire at West Bromwich and Dartford CC, which ended in a last-ball win for the hosts. Wales scored 173-9 in their 45 overs, with Will Sissons (Eryri) contributing a well-crafted 54. In reply, Staffordshire reached 174-7 on the very last ball. The game see-sawed during their innings, and they needed 13 off the last over. The first ball was pulled for 6 over midwicket which gave them the initiative.  A second boundary, singles and dot balls meant the scores were tied going into the last ball.  Despite a well-directed yorker, Gaffney was able to scamper home and take the tie for the home side. 

The U13s lost to Somerset by 5 wickets in a disappointing match at Pontarddulais. Wales reached 176-7 off 40 overs, with Scott O’Leary (Gwent) (35) and Tomos Evans (Gwent) (32 not out) top scorers. However, the visitors reached the target in the 36th over.

The U13 boys finally broke their duck as they beat Hampshire by 4 wickets at New Milton Hampshire reached 156 all out, with Tomos Jones (Carmarthenshire) taking four wickets for 29. In reply, 39 from Scott O’Leary and 34 from Nathan Lee (West Glamorgan) helped Wales to reach 158-6 off 33.4 overs to take a deserved victory.

The U12 boys’ batting let them down when they faced Somerset at Newport. A good bowling and fielding display limited the visitors to 93 all-out, with Wales spinners Ben Davies (Gwent) (2-12) and Jayden Goodwin (Cardiff & Vale) (4-21) being the pick of the bowlers.

In reply Wales made a disastrous start, collapsing to 0–5 and then 1–6, before finishing on 33 all-out – 60 runs adrift.

A much improved batting performance saw Wales to a 7 wicket victory against Cheshire at Rydal School (Colwyn Bay). Cheshire made 130-9 from their 45 overs. Spinners Jayden Goodwin (2-17) and Tegid Phillips (Cardiff & Vale) (2-27) were the pick of the Wales bowlers. In reply, the Wales openers Goodwin and Jack Kennedy (North East Wales) posted an 83-run opening partnership, before Kennedy was out for 34. Although batting cautiously, the partnership provided a much needed foundation for the innings. Goodwin went on to complete his half-century and Wales recorded a 7 wicket win with 3 balls to spare.

Wales U17 boy beat Millfield School by five runs, after reaching a total of 281-8 in 50 overs, while Millfield managed 276-8. Openers Gareth Ansell (Gwent) (86) and Scott Thornton (Gwent) (68) led the way with the bat, while the top bowler was Luke Harris (Gwent) with 3-49 from 10 overs. In a two-day match against Gloucestershire at Pentyrch, Wales scored 299-6, with Jack Thorpe-Yon (Gwent) reaching 108, before the visitors replied with 263.

The U17s scored a second victory at Neath the following day, defeating Gloucestershire by 95 runs in a 50-over match. Thorpe-Yon was again top scorer with 82, as Wales reached 258-9, while Sam Pearce (Mid Glamorgan) took four wickets, as Gloucestershire were all-out for 163.  

“Over the past month or so, we’ve seen another mixed bag of results,” said Cricket Wales performance manager John Derrick. “We’ve had some disappointments, but also some really impressive performances – and three ties in a row is not something you see very often!”

Tair gêm gyfartal olynol i Ferched Cymru

Mae timau grwpiau oedran Criced Cymru wedi parhau i wneud cynnydd dros yr haf, gyda chymysgedd o ganlyniadau, gan gynnwys camp hynod y tîm merched D13 o gael tair gêm gyfartal yn olynol.

Cafodd y merched gemau cyfartal yn erbyn Hampshire,  Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf, gan sicrhau canlyniad criced trithro anarferol iawn.

Dechreuodd y bechgyn D13 eu tymor yn hwyr, gan golli o drwch blewyn i Swydd Gaerhirfryn yn Yr Amwythig.  Cafodd Cymru sgôr ychydig islaw’r disgwyl o 140-8 oddi ar 45 pelawd cyn i Swydd Gaerhirfryn sgorio 142-7 gyda saith pêl yn sbâr.

Dilynodd Connor Davies (Gogledd Ddwyrain Cymru) sesiwn fatio ddefnyddiol  (33) gydag ychydig o droelli  medrus, gan gipio un wiced am 18 rhediad mewn naw pelawd.

Yna cafwyd gornest glos iawn yn erbyn Swydd Stafford yng Nghlwb Criced West Bromwich a Dartford, a orffennodd gyda buddugoliaeth pêl olaf i’r tîm cartref.  Sgoriodd Cymru 173-9 yn eu 45 pelawd, gyda Will Sissons (Eryri) yn cyfrannu  54 rhediad crefftus.

Mewn ymateb, cyrhaeddodd Swydd Stafford 174-7 ar y bêl olaf un.  Roedd y gêm yn y fantol trwy gydol eu batiad, ac roedd angen 13 arnyn nhw oddi ar y belawd olaf.  Tynnwyd y bêl gyntaf am 6 ar yr ochr goes gan roi’r fantais iddyn nhw.   Yn dilyn ail drawiad i’r ffin,  rhediadau sengl a pheli di-sgôr   roedd y ddau sgôr yn gyfartal wrth i’r bêl olaf gael ei bowlio.   Er gwaethaf iorcer a anelwyd yn dda, llwyddodd Gaffney yn y pen draw i selio’r fuddugoliaeth i’r tîm cartref. 

Collodd y tîm i Wlad yr Haf o 5 wiced mewn gornest siomedig ym Mhontarddulais.  Sgoriodd Cymru 176-7 oddi ar 40 pelawd, gyda Scott O’Leary (Gwent) (35) a Tomos Evans (Gwent) (32 heb fod allan) yn brif sgorwyr.  Fodd bynnag, cyrhaeddodd yr ymwelwyr y targed yn y 36ain pelawd.

Llwyddodd y  tîm bechgyn D13 i ennill eu gem gyntaf o’r diwedd trwy guro Hampshire o 4 wiced yn New Milton.  Sgoriodd  Hampshire 156 i gyd allan, gyda Tomos Jones (Sir Gâr) yn cipio pedair wiced am 29.

Mewn ymateb bu 39 gan Scott O’Leary a 34 gan Nathan Lee (Gorllewin Morgannwg) yn gymorth i dîm Cymru i gyrraedd 158-6 oddi ar 33.4 pelawd gan selio buddugoliaeth haeddiannol.

Roedd batio’r tîm bechgyn D12 yn siomedig wrth iddyn nhw wynebu Gwlad yr Haf yng Nghasnewydd.  Yn sgil bowlio a maesu da cyfyngwyd yr ymwelwyr i  93 i gyd allan. Troellwyr Cymru, Ben Davies (Gwent) (2-12) a Jayden Goodwin (Caerdydd a’r Fro) (4-21) oedd y bowlwyr gorau.

Mewn ymateb, cafodd Cymru ddechrau trychinebus, gan golli pum wiced heb sgorio ac yna chwe wiced am un rhediad, cyn gorffen ar 33 i gyd allan -  60 rhediad yn brin.

Yn sgil batio gwell o lawer, cafodd Cymru fuddugoliaeth o 7 wiced yn erbyn Sir Gaer yn Ysgol Rydal (Bae Colwyn). Sgoriodd Sir Gaer 130-9 yn eu 45 pelawd.  Y troellwyr  Jayden Goodwin (2-17) a Tegid Phillips (Caerdydd a’r Fro) (2-27) oedd bowlwyr gorau Cymru.

Mewn ymateb, sgoriodd batwyr Cymru, Goodwin a Jack Kennedy (Gogledd Ddwyrain Cymru) 83 rhediad am y wiced gyntaf, cyn i Kennedy gael ei fowlio allan am 34. Er  i’r ddau fatio’n ofalus, gosododd y bartneriaeth sylfaen gwerthfawr ar gyfer  gweddill y batiad.  Aeth Goodwin ymlaen i gyflawni  ei hanner cant a chafodd Cymru fuddugoliaeth o 7 wiced gyda thair pêl dros ben.

Curodd bechgyn D17 Cymru Ysgol Millfield o bum rhediad.  Sgoriodd Cymru  281-8 mewn 50 pelawd, gyda Millfield yn ymateb gyda 276-8. Llwyddodd batio Gareth Ansell (Gwent) (86) a Scott Thornton (Gwent) (68) i arwain y ffordd,  a’r bowliwr gorau oedd Luke Harris (Gwent) gyda 3-49  mewn 10 pelawd.

Mewn gornest ddeuddydd yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mhentyrch, sgoriodd Cymru 299-6, gyda Jack Thorpe-Yon (Gwent) yn sgorio  108, cyn i’r ymwelwyr ymateb gyda 263.

Cafodd  y tîm D17 ail fuddugoliaeth yng Nghastell Nedd y diwrnod canlynol, gan guro Swydd Gaerloyw o 95 rhediad mewn gornest 50 pelawd.  Unwaith eto Thorpe-Yon oedd y sgoriwr uchaf gydag 82 rhediad, wrth i Gymru gyrraedd 258-9, a chipiodd Sam Pearce (Morgannwg Ganol)  bedair wiced, wrth i Swydd Gaerloyw  gael eu bowlio allan am 163.  

“Dros yr wythnosau diwethaf, cafwyd cymysgedd o ganlyniadau unwaith eto,” meddai Rheolwr Perfformiad Criced Cymru, John Derrick. “Cawsom ambell i siom, ond hefyd rhai perfformiadau gwych – a ‘dyw tair gêm gyfartal yn olynol ddim yn rhywbeth a welir yn aml!”
Share

Offical Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play