Parent power and coach commitment save junior cricket team

|



Carmel & District Cricket Club in Flintshire had to withdraw from the North East Wales  U9s league after their  coach left the area and nobody within the club felt able to take over, leaving the squad of disappointed young players facing the prospect of a summer without cricket.

After posting the news on social media, Cricket Wales community coach Jamie Griffiths offered to help the club overcome their problem.

He provided support and guidance to develop a coaching team among parents and club volunteers, leading to one of the parents, Arun Kaimal, stepping up as team manager , with support from three others including a qualified coach all from within the club.

Mr Kaimal, who is a consultant at Glan Clwyd Hospital in Rhyl, had completed an ECB Coach Support Worker qualification, but did not have the confidence to take responsibility for the team until Jamie stepped in to develop the skills and knowledge among the volunteers.

“This is invaluable help we have received and I want to thank Jamie and Cricket Wales for this outstanding example to achieve excellence in cricket development in the area, on behalf of the parents and children in our team , “ he said.

“Guidance and support from Cricket Wales can make a hugely positive difference for parents and children who are interested in cricket in Wales.”

Mr Kaimal, whose sons Rohit, aged 11, and Navneet, aged 7, both play for the club, said Navneet had been in tears at the prospect of the team folding, but was now both happy and grateful that the season has been saved.

“Cricket relies on the commitment of volunteers, and it’s also vital that we maintain a thriving junior programme to ensure the future of the game,” said Peter Hybart, chief executive of Cricket Wales.

“This is a fantastic example of a community coach going the extra mile to ‘pump prime’ activity in a club, leading to increased enthusiasm and commitment from parents and other club members to ensure that the youngsters get to play this season.”

Cricket Wales is the national governing body for junior and recreational senior cricket in Wales. It works closely with Glamorgan County Cricket Club, which governs the men’s professional game. For information visit www.cricketwales.org.uk

Grym rhieni ac ymrwymiad  hyfforddwr yn achub tîm criced iau.

Mae cyfuniad o rym rhieni ac ymrwymiad hyfforddwr cymunedol wedi sicrhau bod tymor tîm criced dan 9 oed yn mynd rhagddo wedi’r cwbl.

Bu’n rhaid i Glwb  Criced Carmel a’r Fro yn Sir y Fflint dynnu’n ôl o gynghrair D9 Gogledd Ddwyrain Cymru wedi i’w hyfforddwr adael yr ardal,  a neb o fewn y clwb yn teimlo y gallent gymryd yr awenau, gan adael y sgwad o chwaraewyr ifanc siomedig yn wynebu haf heb griced.

Ar ôl postio’r newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol, cynigiodd hyfforddwr cymunedol Criced Cymru, Jamie Griffiths, helpu’r clwb i oresgyn eu problem.

Darparodd gymorth ac arweiniad i ddatblygu tîm hyfforddi o blith rhieni a gwirfoddolwyr y clwb, gan arwain at un o’r rhieni, Arun Kaimal, yn ymgymryd â rôl rheolwr y tîm, gyda chymorth tri arall, gan gynnwys hyfforddwr cymwysedig, oll o blith aelodau’r clwb.

Roedd Mr Kaimal, sy’n feddyg ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd yn Y Rhyl, wedi  cwblhau cymhwyster Gweithiwr Cymorth Hyfforddwyr yr ECB, ond doedd ganddo mo’r hyder i ysgwyddo cyfrifoldeb dros y tîm nes i Jamie gamu mewn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth y gwirfoddolwyr.

“Mae hwn yn gymorth amhrisiadwy rydym wedi’i dderbyn a hoffwn ddiolch i Jamie a Criced Cymru am yr esiampl wych hon o sicrhau rhagoriaeth o ran datblygu criced yn yr ardal, ar ran y rhieni a’r plant sydd yn ein tîm,” meddai.

“Gall arweiniad a chefnogaeth gan Criced Cymru wneud gwahaniaeth hynod o bositif i rieni a phlant sydd â diddordeb mewn criced yng Nghymru.”

Dywedodd Mr Kaimal, y mae ei feibion Rohit, 11 oed, a Navneet, 7 oed, ill dau’n chwarae i’r clwb, fod Navneet yn ei ddagrau yn tybio y byddai’r tîm yn dod i ben, ond roedd yn hapus ac yn ddiolchgar erbyn hyn bod y tymor wedi’i achub.

“Mae criced yn dibynnu ar ymrwymiad gwirfoddolwyr, ac mae hefyd yn hanfodol ein bod yn cynnal rhaglen iau ffyniannus i sicrhau dyfodol y gêm,” meddai Peter Hybart, prif weithredwr Criced Cymru.

“Dyma esiampl wych o hyfforddwr cymunedol yn mynd yr ail filltir i ysgogi gweithgarwch o fewn clwb, gan gynyddu brwdfrydedd ac ymrwymiad y rhieni ac aelodau eraill o’r clwb i sicrhau bod y chwaraewyr ifanc yn cael cyfle i chwarae’r tymor hwn.”

Criced Cymru yw’r corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer criced iau a chriced hamdden hyn yng Nghymru.  Mae’n gweithio’n agos â Chlwb Criced Morgannwg, sy’n llywodraethu gêm broffesiynol y dynion.
Am wybodaeth ewch i: www.criced.cymru
Share

Official Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play