New Nets at Sudbrook CC

|



The event marked the opening of a new artificial net complex and the club’s Junior School Cricket Tournament. As well as Glamorgan’s Kieran Bull and Dewi Penrhyn Jones, those attending included representatives of  Cricket Wales, Sport Wales and Monmouthshire County Council.

Sudbrook Cricket Club’s youth organiser, Rob Lewis, said: “It was a long application process but we were delighted to receive the grant award from the England and Wales Cricket Trust and the support from Monmouthshire County Council as we urgently needed to up-grade our practice facilities.  The new synthetic practice area is high quality to England and Wales Cricket Board (ECB) specifications.  This season we shall be able to have a more structured coaching programme through our ECB qualified coaches, from which all age groups will benefit.

“We consider ourselves most fortunate to raise the funding for such an expensive project especially in view of the difficult economic climate and we are extremely grateful to Tim Nicholls of the England and Wales Cricket Board and to Mike Moran of Monmouthshire County Council, also for the help the club received from Steve Watkins, our regional cricket development officer at Cricket Wakes. “We obviously couldn’t afford this project from our own resources and we regard the grants as an investment in cricket at the club for the future, and the local community will also benefit in the long term.”






Chwaraewyr Morgannwg yn noson agoriadol rhwydi clwb

Cynhaliodd dau o chwaraewyr Clwb Criced Morgannwg sesiynau hyfforddi i rai o chwaraewyr ifanc Clwb Criced Sudbrook yn ystod noson arbennig yn y clwb.

Roedd y digwyddiad yn rhan o agoriad ardal ymarfer artiffisial newydd a Thwrnamaint Criced Ysgolion Iau'r Clwb.

Yn ogystal â Kieran Bull a Dewi Penrhyn Jones o Glwb Morgannwg, ymhlith y rhai eraill a fynychodd y digwyddiad roedd cynrychiolwyr Criced Cymru, Chwaraeon Cymru a Chyngor Sir Fynwy.

Meddai trefnydd ieuenctid Clwb Criced Sudbrook, Rob Lewis:  “Roedd y broses ymgeisio yn un hir ond roeddem wrth ein boddau’n derbyn y grant oddi wrth Ymddiriedolaeth Criced Cymru a Lloegr, yn ogystal â derbyn cymorth oddi wrth Cyngor Sir Fynwy, oherwydd roedd gwir angen uwchraddio’n cyfleusterau ymarfer.  Mae’r ardal ymarfer synthetig newydd yn cwrdd â safonau a gofynion uchel Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB).  Y tymor hwn bydd modd inni gynnig rhaglen hyfforddi fwy strwythuredig trwy ein hyfforddwyr ECB cymwysedig, a fydd o fudd i chwaraewyr o bob oedran.

“Rydym yn teimlo’n ffodus iawn o fod wedi codi’r arian ar gyfer prosiect mor gostus, yn enwedig o gofio’r hinsawdd economaidd anodd, ac rydym yn hynod o ddiolchgar i Tim Nicholls o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr a Mike Moran o Gyngor Sir Fynwy; hefyd am y cymorth a dderbyniodd y clwb oddi wrth Steve Watkins, ein swyddog datblygu criced rhanbarthol gyda Criced Cymru. “Wrth reswm, ni allem fod wedi fforddio’r prosiect hwn o’n hadnoddau’n hunain ac rydym yn ystyried y grantiau fel buddsoddiad yng nghriced y clwb ar gyfer y dyfodol, a bydd y gymuned leol hefyd yn elwa yn yr hirdymor.”  
Share

Offical Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play