Mixed fortunes for Cricket Wales teams

|


U12 Team v Gloucestershire

Cricket Wales’ age-group teams enjoyed mixed fortunes in their latest matches, with the U15 girls providing a highlight with a convincing away win over Shropshire. After limiting Shropshire to 81-7 in their 20 overs, thanks in part to the bowling of Lili Powell (Cardiff), who took 3-5 in three overs, Wales reached 82 for the loss of one wicket in 15.3 overs, with opener Rose Evans (Gwent) scoring 48 not out.

 In another exciting match, The U15 boys came within one run of tying with Yorkshire at Mumbles CC. The visitors were all-out for 190, with Morgan Murray-Williams (Eryri) the best of Wales’ bowlers, recording 4-32. Wales fell just short with the bat – reaching 189-8 in their 50 overs, with Kieron Griffiths (Pembrokeshire) top scorer on 74 from 103 balls.

They suffered a much heavier defeat at the hands of Oxfordshire at Cardiff CC, however, managing 128 all-out – a total Oxfordshire passed with the loss of one wicket.

The U12 boys had a disappointing tour of the West Country, suffering defeats to Devon and Gloucestershire.   An excellent Welsh bowling performance, led by Ben Davies (Gwent) (4-8), restricted the hosts to 64 all-out. But, when they batted, Wales slumped to 9-5 and ended at 61 all-out.

Wales put in another solid bowling performance against Gloucestershire at the County Ground, Bristol, with Davies again leading the attack with figures of 5-36, as the hosts were all-out for 123. The visitors looked to be on course for victory at 82-4 in reply, but collapsed to finish all-out for 114.

Wales’ U13 boys suffered a narrow defeat by Lancashire at Shrewsbury. Batting first, Wales ended their 45 overs on 140-8; but Lancashire reached 142-7 with seven balls to spare.

 “Despite some disappointing results in this latest batch of matches, there were some really encouraging performances too,” said Cricket Wales performance manager John Derrick. “Our coaches and managers are working hard with the teams to build on their strengths and work on their weaknesses, so we’re hoping for further improvement as the season progresses.”

Canlyniadau cymysg i dimau Criced Cymru Cymysg fu canlyniadau timau grwp oedran 

Criced Cymru yn eu gornestau diweddar, gyda’r  merched Dan 15 yn darparu uchafbwynt gyda buddugoliaeth bendant yn erbyn Swydd Amwythig. Ar ôl cyfyngu Swydd Amwythig i 81-7 yn eu 20 pelawd, diolch yn rhannol i fowlio Lili Powell (Caerdydd) a gymerodd 3-5 mewn tair pelawd, cyrhaeddodd Cymru 82 gan golli un wiced mewn 15.3 pelawd, gyda’r batiwr cyntaf Rose Evans (Gwent) yn sgorio 48 heb fod allan.

Mewn gornest arall gyffrous, daeth y bechgyn Dan 15 o fewn un rhediad o fod yn gyfartal â Swydd Efrog yng Nghlwb Criced y Mwmbwls. Roedd yr ymwelwyr i gyd allan am 190, gyda Morgan Murray-Williams (Eryri), y gorau o fowlwyr  Cymru’n cofnodi 4-32.  Roedd Cymru ychydig yn brin wrth fatio - gan gyrraedd 189-8 yn eu 50 pelawd, gyda Kieron Griffiths (Sir Benfro) yn sgoriwr uchaf ar 74 gyda 103 o beli.

Cawsant grasfa waeth o lawer yn erbyn Swydd Rhydychen yng Nghlwb Criced Caerdydd, fodd bynnag, gan lwyddo i gael 128 i gyd allan - cyfanswm a gafodd Swydd Rhydychen gan golli un wiced yn unig.

Cafodd y bechgyn Dan 12 daith siomedig yng Ngorllewin Lloegr, gan golli yn erbyn Dyfnaint a Swydd Gaerloyw.   Yn sgil bowlio gwych gan dîm Cymru, dan arweiniad Ben Davies (Gwent) (4-8), cyfyngwyd y tîm cartref i 64 i gyd allan.  Ond, pan aethant ati i fatio, llithrodd Cymru lawr i 9-5 gan orffen ar 61 i gyd allan.

Rhoddodd Cymru berfformiad bowlio cadarn arall yn erbyn Swydd Gaerloyw ar y Maes Sirol ym Mryste, gyda Davies unwaith eto’n arwain yr ymosodiad gyda ffigyrau o 5-36, gyda’r tîm cartref i gyd allan am 123. Roedd hi’n edrych fel petai’r ymwelwyr ar eu ffordd i fuddugoliaeth ar 82-4 wrth ymateb, ond aeth y cyfan ar chwâl a gorffennwyd ar 114 i gyd allan.

Collodd bechgyn Dan 13 Cymru o drwch blewyn i Swydd Gaerhirfryn yn Yr Amwythig.  Gan fatio’n gyntaf, daeth Cymru â’u 45 pelawd i ben ar 140-8; ond cafodd Swydd Gaerhirfryn 142-7 gyda saith pêl ar ôl.

“Er gwaethaf rhai canlyniadau siomedig yn y gyfres ddiweddaraf o ornestau, roedd ‘na rai perfformiadau hynod o galonogol hefyd,” meddai rheolwr perfformiad Criced Cymru John Derrick. “Mae ein hyfforddwyr a’n rheolwyr yn gweithio’n galed gyda’r timau i adeiladu ar eu cryfderau a gweithio ar eu gwendidau, felly rydym yn gobeithio y bydd pethau’n gwella eto wrth i’r tymor fynd yn ei flaen.”
Share

Offical Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play