5th January 2015
| Mallory Gray
The Wales Audit Office launches
a citizen survey into the current state of Welsh council sport and recreation services
Services
are changing Wales. In these times of austerity, local government has to
re-assess which services to prioritise and many services now have to deliver
with less income.
In a series of reports, the Wales Audit Office
is investigating the impact of these changes on the public in Wales and now
wishes to hear from the public on how good local council’s leisure services are and
what could be done to improve them. The Audit Office review team wishes to hear from you and your
experiences with leisure service, the information gather will help shape and
develop the final report being produced in 2015.
We have produced a short survey to support
this work and are encouraging residents and visitors to tell us about their
experience, good or bad, when using council leisure services.
You may complete the short, anonymous, survey
by visiting our website
atyourleisure.wao.gov.uk which
provides a link to the survey as well as some further information.
Auditor
General for Wales, Huw Vaughan Thomas said:
“Authorities need to ensure that what they
provide is valued by service users and is cost effective. Leisure services are
an important aspect in all our daily lives, but because they are not being
protected in the current round of budget cuts, they are at risk of being
reduced. I want to encourage as many people as possible to have their say on these
services and how their council is consulting with residents over where to make
budget cuts.”
For more information please contact Matt
Davies 029 2032 0519 or email
[email protected]
Swyddfa
Archwilio Cymru yn lansio arolwg dinasyddion o gyflwr presennol gwasanaethau
chwaraeon a hamdden cynghorau yng Nghymru
Mae
gwasanaethau'n newid Cymru. Ar yr adeg hon o galedi mae llywodraeth leol yn
gorfod ailasesu pa wasanaethau i'w blaenoriaethu ac mae llawer o wasanaethau
bellach yn gorfod cael eu darparu gyda llai o arian.
Mewn cyfres o adroddiadau, mae Swyddfa
Archwilio Cymru yn ymchwilio i effaith y newidiadau hyn ar y cyhoedd yng
Nghymru a hoffem glywed gennych er mwyn cael gwybod pa mor dda yw gwasanaethau
hamdden eich cyngor lleol a beth y dylid ei wneud i'w gwella yn eich barn chi.
Mae'r tîm adolygu am glywed gennych a
chlywed am eich profiadau o ran gwasanaethau hamdden, a bydd y wybodaeth a
gesglir yn helpu i lunio a datblygu'r adroddiad terfynol sy'n cael ei lunio yn
2015.
Rydym
wedi llunio arolwg byr i ategu'r gwaith hwn ac yn annog trigolion ac ymwelwyr i
ddweud wrthym am eu profiad, boed yn dda neu'n wael, wrth ddefnyddio
gwasanaethau hamdden y cyngor.
Gallwch
gwblhau'r arolwg byr, dienw drwy fynd i'n gwefan
eichhamdden.wao.gov.uk sy'n
rhoi dolen i'r arolwg yn ogystal â rhagor o wybodaeth.
Dywedodd Archwilydd
Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:
"Mae
angen i awdurdodau sicrhau bod yr hyn a ddarparant yn cael ei werthfawrogi gan
ddefnyddwyr gwasanaethau a'i fod yn gosteffeithiol. Mae gwasanaethau hamdden yn
agwedd bwysig ar ein bywydau beunyddiol, ond mae perygl y cânt eu lleihau yn y
cylch cyfredol o doriadau i'r gyllideb. Hoffwn annog cymaint o bobl â phosibl i
ddweud eu dweud am y gwasanaethau hyn a sut mae eu cyngor yn ymgynghori â thrigolion
ynghylch ble i wneud toriadau i'r gyllideb."
Diwedd
I
gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Matt Davies ar 029 2032 0519 neu anfonwch
e-bost i
[email protected]