Happy St David's Day! Gwnewch y Pethau Bychain

|

 

Mae Criced Cymru yn hynod falch o’n hunaniaeth Gymreig ac wedi ymrwymo i warchod a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

 

Fel rhan o’r ymrwymiad hyn, rydym am benodi grŵp o bobl angerddol o deulu Criced yng Nghymru i’n helpu i lunio ein hymdrechion ymhellach yn y maes hwn, i sicrhau bod Criced yng Nghymru yn parhau i fod mor berthnasol ag erioed i siaradwyr Cymraeg, ac i gefnogi ein clybiau i gael yr hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gweithgareddau, os dymunant.

 

Rydym wedi bod yn gweithio’n frwd â Chomisiynydd y Gymraeg ers sawl blwyddyn ac yn ceisio cydnabod ein hymdrechion a’n huchelgeisiau mewn perthynas â chefnogi a defnyddio’r Gymraeg ar draws ein busnes. Os hoffech ymuno â ni i helpu i symud ein cynnig presennol yn ei flaen, ac ymestyn ein cynlluniau a’n syniadau cyfredol, anfonwch gyflwyniad o tua 150-200 gair atom, naill ai ar ffurf fideo, neu ar ffurf ysgrifenedig, yn esbonio pam yr hoffech gael eich ystyried.

 

Wrth lansio’r fenter hon, dywedodd Gareth Lanagan, aelod o Fwrdd Criced Cymru, “Rydym wedi gweithio’n galed yn y blynyddoedd diwethaf i wella ein harlwy Cymraeg. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg mewn chwaraeon a’n rôl i helpu i gyflawni nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae’r fenter hon yn gyffrous i Criced Cymru ac rydym yn awyddus i glywed gan selogion criced sy’n siarad Cymraeg. Trwy’r prosiect hwn, rydym yn gobeithio ymhen amser y bydd y Gymraeg yn rhan hyd yn oed yn fwy cynhenid ​​​​o griced ledled Cymru.”

 

Disgwylir i’r ymrwymiad fod yn gyfarfod o tua 1 awr, oddeutu unwaith y chwarter (trwy Teams/Zoom) am hyd at y 12 mis nesaf.

 

Y dyddiad cau yw’r 17eg Mawrth 2022. Anfonwch eich cais i [email protected] a rhowch ‘Grŵp Cymraeg’ yn y testun.

 

 

 

Cricket Wales are extremely proud of our Welsh identity and are committed to preserving and promoting the Welsh language.

 

As part of this commitment, we are seeking to appoint a group of passionate people from the Welsh Cricket family, to help us further shape our efforts in this area, to ensure that Welsh Cricket remains as relevant as ever to Welsh speakers - and to support our clubs to have the confidence to use Welsh in their activities, if they so choose.

 

We have been actively working with the Welsh Language Commissioner for several years and are seeking to achieve recognition of our efforts and ambitions in relation to the support and use of Welsh across our business. If you would like to join us to help advance our current offer, and our amplify our existing plans and ideas, please send us an c150-200 word submission, either as a video, or in written form, detailing why you would like to be involved.

 

Launching this initiative, Gareth Lanagan, Cricket Wales Board member, said “We have worked hard in the last few years to improve our Welsh language offer. We recognise the importance of the Welsh language in sport and our role to help achieve the Welsh Government's goal of a million speakers by 2050. This initiative is exciting for Cricket Wales and we are keen to hear from cricket enthusiasts who speak welsh. through this project, we hope that in time the welsh language will be an even more intrinsic part of cricket across Wales.” 

We expect time commitment to be a meeting of about 1 hour, approximately once per quarter (via Teams/Zoom) for up to the next 12 months.

Closing date is 17th March 2022. Please submit your application to [email protected] and mark the subject ‘Grŵp Cymraeg’.

Share

Offical Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play