Grwp Cymraeg offers Welsh Language support for Clubs

|

Grŵp Cymraeg offers its support for clubs wanting to improve/start their use of the Welsh Language.

Grŵp Cymraeg yn cynnig cymorth i glybiau sydd am wella’u defnydd/dechrau defnyddio’r Gymraeg

 

The advisory group that supports Cricket Wales with its commitment to the Welsh language has offered its help for clubs that want to take their first steps in using the language.

Mae’r grŵp ymgynghorol sy’n cefnogi Criced Cymru gyda’i ymrwymiad i’r Gymraeg wedi cynnig helpu clybiau sydd am gymryd eu camau cyntaf o ran defnyddio’r iaith.

 

Chaired by Gareth Lanagan and made up of largely club representatives all of whom are passionate about using Welsh, Grwp Cymraeg is reaching out to clubs who aren’t sure how to get started or even accelerate what they do.

Wedi’i gadeirio gan Gareth Lanagan, ac yn cynnwys cynrychiolwyr clybiau yn bennaf, gyda phob un ohonyn nhw’n angerddol dros ddefnyddio’r Gymraeg, mae’r Grŵp Cymraeg yn estyn allan i glybiau sydd ddim yn siŵr sut i ddechrau, neu sydd am ddefnyddio mwy o’r iaith.

 

Gareth Lanagan said:  “We know that when clubs use the Welsh language this really connects with the Welsh speaking community helping clubs connect with more people.”

Dywedodd Gareth Lanagan:  “Pan fydd clybiau’n defnyddio’r Gymraeg, gwyddom fod hyn yn creu cyswllt go iawn â’r gymuned Gymraeg, gan helpu clybiau i gysylltu â mwy o bobl.”

 

Mark Frost interim CEO Cricket Wales said,  “Whether it be it in our coaching, social media or general communications, even just a little content in terms of greetings and common phrases will help and further support our approach to inclusion i.e. people feeling welcome in their club.”

Meddai Mark Frost, Prif Weithredwr dros dro Criced Cymru,  “P’un ai yn ein hyfforddiant, cyfryngau cymdeithasol neu gyfathrebu cyffredinol, mi fydd cynnwys hyd yn oed ychydig bach o Gymraeg ar ffurf cyfarchion ac ymadroddion cyffredinol yn help, ac yn hyrwyddo ein nod o sicrhau cynhwysiant h.y. pobl yn teimlo bod croeso iddyn nhw yn eu clwb.”

 

To get started or just do a bit more and receive some support, please fill out this short expression of interest and we will get in touch.  (Apply here)

I gael cymorth i ddechrau arni, neu i wneud ychydig mwy, llenwch y mynegiant o ddiddordeb byr hwn os gwelwch yn dda a byddwn yn cysylltu â chi.  Gwnewch gais yma.

 

 

Share

Offical Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play