Llongyfarchiadau Llandysul

|

Cyhoeddwyd gyntaf yng nghylchgrawn Golwg  (Llun: JD Photography)

Er nad yw’n anghyffredin iddyn nhw fel tîm, roedd pob un aelod o dîm criced dan 13 Llandysul oedd yn fuddugol yn rownd derfynol Parau Cynghrair Criced Ieuenctid De Cymru ddydd Sul (Awst 14) yn siarad Cymraeg. Mae hon yn un o wyth rownd derfynol sy’n cael eu cynnal yn ystod y tymor, ac yn un o dair ym Mhontarddulais dros y penwythnos.

A hwythau’n dod o ysgolion ardal Llandysul a Chaerfyrddin, mae gan dîm Llandysul ethos cwbl Cymraeg, yn ôl eu prif hyfforddwr Aled Jones, sy’n dweud bod bron y cyfan o’u sesiynau hyfforddi hefyd yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedden nhw’n chwarae yn erbyn tîm Clydach yn y rownd derfynol, a rheiny hefyd yn dîm sydd â nifer o siaradwyr Cymraeg yn eu plith.

“Gyda’r timau ieuenctid, mae e wedi digwydd yn eitha’ cyson, achos mae rhan fwya’r bois ifainc lleol yn dod o’r ysgolion Cymraeg lleol,” meddai wrth golwg. “Yn yr ysgolion, mae cystadleuaeth i gael ar gyfer Blwyddyn 7 ac i Flwyddyn 9 bob blwyddyn, so maen nhw’n trio chwarae ambell i gêm yn yr ardal hyn.”

Yn ôl Aled Jones, mae dylanwad un ffigwr allweddol yn hollbwysig ar blant yr ardal leol.

“Yn Llandysul, yn yr adran chwaraeon mae bach o gefndir criced i gael yn yr ysgol [Ysgol Bro Teifi]. Mae hwnna’n help, does dim dowt. Mae Darrel Griffiths yn yr ysgol, a hwnnw’n arfer bod yn gapten tîm cynta’ Llandysul am sawl blwyddyn, a fe yw’r athro Chwaraeon neu Ymarfer Corff.”

Er eu bod nhw’n dîm sydd ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, yng nghynghreiriau Sir Gaerfyrddin mae Llandysul yn chwarae, fel yr eglura Aled Jones. Ac mae cyfran helaeth o’r chwaraewyr yn y gynghrair honno’n siarad Cymraeg.

“Ceredigion y’n ni fel clwb, ond ry’n ni reit ar y border, so ni yw’r tîm mwya’ i’r gorllewin yn y gystadleuaeth. Mae’r league yn mynd reit lawr ac yn cyfro hen sir Gorllewin Morgannwg a Morgannwg Ganol, ond beth maen nhw’n gwneud yw rhannu’r oedrannau lan yn zones. Ni wastad yn Zone A – zone y gorllewin. Timoedd Sir Gaerfyrddin yw’r rhan fwya’, ond mae’n dibynnu ar y clybiau a pha oedrannau sy’n cofrestru timoedd. Yn gyffredinol, ni’n chwarae Bronwydd, Carmarthen Wanderers, Rhydaman, Drefach ambell waith, Cydweli, a rhai o dimoedd ardal Llanelli ambell waith hefyd.

“Does dim pob un yn siarad Cymraeg ond yn aml iawn, ni’n dod ar draws timoedd eraill lle mae’r hyfforddwyr a lot o chwaraewyr a rhieni yn siaradwyr Cymraeg.”

O ran Llandysul, mae’n dweud bod “y rhan fwyaf os nad y cyfan” o’r hyfforddiant yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mai prin iawn yw’r adegau pan fo angen troi i’r Saesneg.

“Mae’r plant yn yr ardal hyn i gyd yn cael addysg Gymraeg. Ambell waith, ry’ch chi’n cael rhywun newydd yn symud i’r ardal ac mae’n rhaid gwneud bach o Saesneg wedyn. Ond ar y cyfan, mae’r hyfforddwyr i gyd yn siarad Cymraeg. Gyda’r plant, Cymraeg maen nhw i gyd yn siarad.

“Mae pob chwaraewr sydd gyda ni yn y garfan [parau] yn siarad Cymraeg. Fi’n credu bod e’n eitha’ naturiol iddyn nhw siarad Cymraeg, y grŵp hyn.”

Symud ymlaen wrth fynd yn hŷn

 Fel unrhyw dîm ieuenctid gwerth ei halen, parhad a symud ymlaen i’r oedran nesaf ac yna i’r tîm oedolion yw’r nod i dimau ieuenctid Llandysul.

“Ni wedi bod yn gwneud ieuenctid nawr ers dros ugain mlynedd,” meddai Aled Jones. “Mae’n neis gweld lot o’r chwaraewyr sy’n chwarae i’r oedolion nawr. Sai’n dweud bo nhw i gyd ond mae gwd canran ohonyn nhw wedi dod trwy ieuenctid y clwb. Smo ni’n un o’r timau cryfa’ yn ne Cymru gyda’r ieuenctid ond digwydd bod, mae’r oedran hyn yn eitha’ cryf gyda ni ac maen nhw wedi cael bach o lwyddiant. Blwyddyn nesa’, bydd y rhan fwya’ o’r tîm yn symud lan i chwarae yn y tîm dan 15.”

 

Yn ôl Mark Todd, cadeirydd Clwb Criced Clydach, gwrthwynebwyr Llandysul, mae parhad a chryfder yr adran ieuenctid yn hollbwysig iddyn nhw hefyd, ac mae’n dweud bod diwrnodau fel rowndiau terfynol y gynghrair ieuenctid ym Mhontarddulais yn “golygu popeth” iddyn nhw.

 

Parau’n magu hyder plant

Ar drothwy’r rownd derfynol rhwng Clydach a Llandysul, fe wnaeth Ben Roberts, is-gadeirydd Cynghrair Criced Ieuenctid De Cymru ac Ysgrifennydd Clwb Criced Pontarddulais, ddymuno’n dda i’r ddau dîm.

Yn wahanol i griced cyffredin, mae’n dweud bod gêm y parau yn gyfle i fagu hyder plant wrth iddyn nhw gael eu cyflwyno i griced. Mae’r rheolau ychydig yn wahanol i griced cyffredin. Mae’r batwyr yn batio fesul pâr am bedair pelawd yr un ac os ydyn nhw allan, does dim rhaid iddyn nhw adael y cae. Yn hytrach, maen nhw’n colli pum rhediad oddi ar eu sgôr a dydy’r batiad ddim yn dod i ben hyd nes bod y parau i gyd wedi cael cyfle i fatio.

“Mae’r gynghrair parau Dan 13 yn gystadleuaeth bwysig iawn i ni fel cynghrair (SWJCL),” meddai Ben Roberts. “Hon yw’r gystadleuaeth sydd wir yn helpu i bontio cricedwyr sydd newydd ddechrau neu heb yr hyder i chwarae’r gêm go iawn, er enghraifft eich bod chi allan pan ydych chi allan, ac yn y blaen.

“Mae Clydach a Llandysul yn hybu’r Gymraeg yn gyson, felly dymuniadau gorau i’r ddau dîm.”

Yn y rowndiau terfynol eraill ym Mhontarddulais, Ynysygerwn gafodd eu coroni’n bencampwyr dan 10 ar ôl curo Rhydaman, a Thre-gŵyr enillodd y gystadleuaeth dan 11 ar ôl curo Port Talbot.

 

“Mae hefyd yn golygu bod y tîm ieuenctid yn llwyddiannus. Mae gyda ni hyfforddwyr yn eu lle, ac mae’r tymor yn gorffen gyda ffeinal. Ry’n ni bob amser yn edrych ymlaen at rowndiau terfynol Pontarddulais, ac wedi edrych ymlaen atyn nhw erioed. A dweud y gwir, pan o’n i’n 14 oed, gawson ni ffeinal dan 14 i lawr yma, 40 mlynedd yn ôl, a dw i’n dal i gofio beth oedd e’n ei olygu i fi hefyd. Dw i’n siŵr ei fod e’n golygu union yr un peth i’r plant sy’n chwarae yma nawr.”

Mae’r timau ieuenctid yn hollbwysig i ddyfodol Clwb Criced Clydach, meddai, gan amau na fyddai’r clwb yn dal i fodoli hebddyn nhw.

“Pe na bai tîm ieuenctid gyda ni, fydden ni ddim yn dal i fynd. Os gawn ni dri o’r chwaraewyr hyn yn symud ymlaen i chwarae fel oedolion, bydd yn golygu popeth i ni. Pe bai’n digwydd bob blwyddyn, byddai’n ein cadw ni i fynd.

“Mae’r adran ieuenctid yn dda iawn ar hyn o bryd. Ond bum mlynedd yn ôl roedd hi’n anodd arnyn nhw. Ond fe newidion ni bethau ac fe ddaethon ni â hyfforddwyr i mewn. Wnaethon ni’r cyrsiau hyfforddi ac fe ddatblygodd pethau. Daethon ni â thrydydd tîm i mewn oherwydd y tîm ieuenctid ac fe gawson ni lwyddiant. Doedden nhw ddim yn ddigon da i chwarae i’r ail dîm, felly mae gyda ni drydydd tîm nawr, ac rydyn ni wedi dod â nhw drwodd fel yna. Mae’n gwneud yr ail dîm a’r tîm cyntaf yn gryfach.”

Yn un o gystadlaethau Criced Cymru, pa mor bwysig fu cefnogaeth corff llywodraethu criced yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y clwb yn tyfu, felly?

“Rydyn ni wedi cael lot fawr o gefnogaeth gan Criced Cymru, yn enwedig Keri Chahal [Rheolwr Ardal De-orllewin Cymru]. Rydyn ni wedi gwneud lot fawr o gyrsiau gyda Keri. Ond mae Criced Cymru ar y cyfan wedi bod yn arbennig o dda gyda grantiau hefyd.”

Share

Official Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play