10th May 2014
| Mallory Gray
Thousands of boys and girls throughout Wales are preparing
to take part in the 2014 Kwik Cricket season.
England internationals Charlotte Edwards and Lydia Greenway
launched the season with a visit to Glasllwch
Primary School in Newport, which won both the mixed and girls South Wales
finals last year and progressed to the finals day at Trent Bridge Cricket Ground,
Nottingham.
Charlotte and Lydia, who are coaching ambassadors with the
Chance
to Shine programme, joined the youngsters in a game of Kwik Cricket ahead of
this year’s competition.
“It was great to meet the girls and boys at Glasllwch
Primary School,” said Charlotte, the England women’s captain. “They are really
enthusiastic about Kwik Cricket and clearly enjoy it as a fun and accessible
introduction to the game.”
Last year 5,800 boys and girls in 560 schools took part in
the Mixed Festivals and 110 schools entered the girls-only festival.
Glasllwch won both South Wales competitions, and the girls
were runners up in the ECB (England and Wales Cricket Board) National Finals
Day, while the boys lost in their semi- final.
In North Wales, the champions were Ygol Bryn Coch, Mold in
the girls competition, and St. Peters CW Primary School, Rosset in the mixed.
The first festival in Wales for 2014 is at Blackwood Cricket
Club on May 19.
“Kwik Cricket gives children of all levels of ability and
experience the chance to enjoy a fun introduction to cricket,” said Cricket
Wales chief executive Peter Hybart. “The Kwik Cricket competitions in Wales are
hugely popular, and offer a fantastic way to enjoy the game in a format that
can be played in virtually any location.”
Sêr Lloegr yn lansio’r tymor Criced
Cyflym yng Nghymru
Mae miloedd o fechgyn a merched ledled
Cymru’n paratoi i
gymryd rhan yn nhymor Criced Cyflym (Kwik
Cricket) 2014.
Lansiwyd y tymor
gan y chwaraewyr rhyngwladol o Loegr, Charlotte Edwards a Lydia Greenway, yn
ystod ymweliad ag Ysgol Gynradd Glasllwch yng Nghasnewydd, a enillodd rownd
derfynol gymysg a rownd merched De Cymru y llynedd, a mynd ymlaen i chwarae yn
y rowndiau terfynol ar faes criced Trent
Bridge yn Nottingham.
Ymunodd Charlotte a Lydia, sy’n llysgenhadon hyfforddiant
gyda’r rhaglen ‘Chance to Shine’ â’r
chwaraewyr ifanc mewn gêm o Griced Cyflym cyn dechrau’r gystadleuaeth eleni.
“Roedd hi’n wych
cael cwrdd â bechgyn a merched Ysgol Gynradd Glasllwch,” meddai Charlotte,
capten tîm merched Lloegr. “Maen nhw mor
frwdfrydig dros Griced Cyflym ac yn amlwg yn ei fwynhau fel cyflwyniad hwylus
i’r gêm.”
Y llynedd
cymerodd 5,800 o fechgyn a merched o
fewn 560 o ysgolion ran yn y Gwyliau Cymysg, a chymerodd 110 o ysgolion ran yn
yr wyl ar gyfer merched yn unig.
Enillodd Glasllwch y ddwy gystadleuaeth yn Ne Cymru, a
chyrhaeddodd y merched yr ail safle yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Bwrdd
Criced Cymru a Lloegr (ECB), gyda’r bechgyn yn colli yn eu rownd gogynderfynol
nhw.
Yng Ngogledd Cymru, y pencampwyr oedd Ysgol Bryn Coch, Yr Wyddgrug yng
nghystadleuaeth y merched, ac Ysgol Gynradd Sant Pedr, Rossett yn y
gystadleuaeth gymysg.
Cynhelir yr wyl
gyntaf yng Nghymru ar gyfer 2014 yng Nghlwb Criced y Coed Duon ar Mai 19.
“Mae Criced Cyflym yn rhoi cyfle i blant o bob lefel gallu a
phrofiad i gael cyflwyniad hwyliog i’r gêm,” meddal prif weithredwr Criced
Cymru, Peter Hybart. “Mae’r cystadlaethau
Criced Cyflym yng Nghymru’n hynod o boblogaidd, ac yn ffordd wych o fwynhau’r
gêm ar fformat y gellir ei chwarae yn unrhyw leoliad mwy neu lai.
”
Mae’r
gystadleuaeth Criced Cyflym yn agored i ysgolion cynradd ac ysgolion canol gwladol
ar draws Cymru a Lloegr.
Criced Cymru yw’r
corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer criced iau a chriced hamdden hyn yng
Nghymru. Mae’n gweithio’n agos â Chlwb
Criced Morgannwg, sy’n llywodraethu gêm broffesiynol y dynion.
Y chwaraewyr rhyngwladol o Loegr, Charlotte
Edwards a Lydia Greenway’n cwrdd â chwaraewyr Criced Cyflym yn Ysgol Gynradd
Glasllwch