25th June 2015
| Mallory Gray
Cricket clubs across Wales have received a
financial boost of £70,000 through the England and Wales
Cricket Trust Small Grant Scheme 2015, supported by Waitrose.
Cricket Wales has distributed funds from the scheme
to clubs, aiming to improve their long term sustainability and / or to increase
the number of games played.
Clubs applied to fund projects including
refurbishment to kitchens and social areas, the purchase of covers supporting the
England and Wales Cricket Board’s (ECB) Get the Game On campaign, and
environmental sustainability, helping clubs become the heart of their local
community.
The clubs supported this year are:
Hawarden Park, Mold, Gorseinon, Croesyceiliog,
Newtown, Aberystwyth, Chepstow, Dafen, Abercarn, Malpas, Llanidloes, Northop, Pembroke
Dock, Llangennech, Monmouth, Bosherton & Stackpole, Haverfordwest, Penarth,
Pwllheli, Bethesda, Bronwydd, Aberdare, Shotton, Monkswood, Montgomery, Bridgend,
and Lisvane.
Waitrose, the England team sponsor, supported this
initiative by pledging £100 for every four or six scored across the entire home
international summer in 2014. The Waitrose donation, alongside investment from
Sport England and the England and Wales Cricket Trust, has allowed more local
communities to benefit.
Peter Hybart, chief executive of Cricket Wales,
said: “This is a fantastic programme that gives valuable support to Welsh clubs
across a variety of projects, and enables clubs to make a real difference in
their local community.”
Mike Gatting, ECB Cricket Partnership Ambassador,
said: “We’re passionate about creating a sustainable future for cricket clubs
and their communities across England and Wales. Small grants to clubs across Wales
make a huge difference to their long term future”.
Rupert Elwood, Head of Marketing for Waitrose, said:
"As they prepare for a busy summer of fixtures, we are proud to see the
positive impact these funds will have on local clubs. We are especially excited that so many clubs
are investing in their kitchen and social areas. This grant scheme is dedicated
to grassroots cricket, supporting clubs as they build their fundraising
activities and ensure a longstanding future as a key part of the local community.
We are also delighted to announce we'll be running the Waitrose Boundary Fund
again this year. During the upcoming Ashes Series, we'll be donating £100 for
every four or six scored by England”.
Cynllun ECB yn hybu cyfleusterau
clybiau criced Cymru
Mae clybiau criced ar draws Cymru wedi derbyn hwb
ariannol o £70,000 trwy gynllun grantiau bach Ymddiriedolaeth Criced Cymru a
Lloegr 2015, a gefnogir gan Waitrose.
Mae Criced Cymru wedi dosbarthu arian y cynllun i
glybiau, gan anelu at wella’u cynaladwyedd hirdymor a/neu gynyddu nifer y gemau
a chwaraeir.
Gwnaeth y clybiau gais am arian ar gyfer prosiectau
megis ailwampio ceginau ac ardaloedd cymdeithasol, prynu gorchuddion yn cefnogi
ymgyrch Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) ‘Get the Game On’, yn ogystal â
chynaladwyedd amgylcheddol, gan helpu clybiau i ddod yn rhan ganolog o’u
cymunedau lleol.
Dyma’r clybiau a gefnogwyd eleni:
Parc Penarlâg, Yr
Wyddgrug, Gorseinon, Croesyceiliog, Y Drenewydd, Aberystwyth, Cas-gwent, Dafen,
Abercarn, Malpas, Llanidloes, Llaneurgain, Doc Penfro, Llangennech, Mynwy,
Bosherton a’r Stagbwll, Hwlffordd, Penarth, Pwllheli, Bethesda, Bronwydd,
Aberdâr, Shotton, Coed y Mynach, Trefaldwyn,
Pen-y-bont ar Ogwr, a Llys-faen.
Mae Waitrose, sef
noddwr tîm Lloegr, wedi cefnogi’r fenter hon drwy addo £100 am bob tro y
byddai un o chwaraewyr Lloegr yn taro
neu’n clirio’r ffin dros holl dymor rhyngwladol haf 2014. Mae cyfraniad ariannol
Waitrose, ochr yn ochr â buddsoddiad gan Sport England ac Ymddiriedolaeth
Criced Cymru a Lloegr, wedi galluogi mwy
o gymunedau lleol i elwa.
Meddai Peter
Hybart, prif weithredwr Criced Cymru: “Mae hon yn rhaglen wych sy’n rhoi
cefnogaeth werthfawr i glybiau Cymru ar draws amryw o brosiectau gwahanol, sy’n
galluogi’r clybiau i wneud gwahaniaeth go iawn i’w cymunedau lleol.”
Dywedodd Mike Gatting, Llysgennad Partneriaeth
Criced yr ECB: “Rydym yn hynod o awyddus
i greu dyfodol cynaliadwy i glybiau criced a’u cymunedau ar draws Cymru a
Lloegr. Mae grantiau bach ar gyfer
clybiau ar draws Cymru’n gwneud gwahaniaeth enfawr i’w dyfodol hirdymor”.
Meddai Rupert Elwood, Pennaeth Marchnata
Waitrose: “Wrth iddyn nhw baratoi ar
gyfer haf prysur o chwarae, rydym yn falch o weld effaith bositif yr arian hwn
ar glybiau lleol. Rydym yn arbennig o
gyffrous bod cymaint o glybiau’n buddsoddi yn eu ceginau a’u hardaloedd
cymdeithasol. Mae’r cynllun grantiau hwn
yn benodol ar gyfer criced llawr gwlad, ac mae’n cefnogi clybiau wrth iddyn nhw
gynyddu’u gweithgareddau codi arian, a sicrhau dyfodol hirdymor fel rhan
allweddol o’r gymuned leol. Rydym hefyd
yn hynod o falch o gyhoeddi y byddwn yn rhedeg Cynllun y Ffin eto eleni. Yn ystod Cyfres y Lludw sydd i ddod yn fuan,
byddwn yn rhoi £100 am bob tro y bydd un o chwaraewyr Lloegr yn taro neu’n
clirio’r ffin”.