Community sports leaders encouraged to use their Welsh

|

Community sports leaders encouraged to use their Welsh

A new online sport module, produced by the Welsh Language Commissioner and Sport Wales, has been launched this week encouraging community sport leaders to use as much Welsh as they can on the playing field.

The module will be used by sport governing bodies in Wales – with the WRU, Cricket Wales, Ospreys in the Community and Football Association of Wales already on board and planning to include the new Welsh module in their training programmes.

Wales rugby internationals Rhys Patchell and Ken Owens and Wales forwards coach Robin McBryde have added their weight to the initiative, as well as Cardiff comedian Mike Bubbins. Bubbins is a Welsh learner and uses as much Welsh as he can when training the under 8s at Clwb Rygbi Cymry Caerdydd.  

Mike Bubbins said: “I think that the parents of the Welsh speaking kids really appreciate that you are making an effort with them. The biggest problem people have is being worried of making fools of themselves – I’d say, don’t worry about it!”

Meri Huws, Welsh Language Commissioner, said: “The module will hopefully encourage sport leaders across Wales to use as much Welsh as they can in their clubs. It’s  another way to normalise the Welsh language in everyday life, outside the school gates.”

One of the governing bodies which will include their module in their training programmes from April onwards is Cricket Wales. Peter Hybart, Chief Executive of Cricket Wales, said: “20% of cricket clubs in Wales already deliver coaching sessions in Welsh. We have developed the new coaching module in partnership with the Welsh Language Commissioner because we believe there is the potential for even greater use of the Welsh language if coaches are given tips and confidence in its use. On the eve of a new season we will be promoting the new module widely on social media and including it within our future Coach Development plans”.

Tom Overton, Head of Community Sport in Sport Wales said: “This is a great module and we will be working with sport governing bodies across Wales encouraging them to include the module in their training programme, following the example of Cricket Wales, Wales Football Trust and WRU.  This will encourage every club and every leader to consider how much Welsh they use and what they could be offering when coaching – from a few words to whole sessions.” 

The module is now available on the Sport Wales’ Club Leaders website – clubsolutions.wales

Arweinwyr chwaraeon yn cael eu hannog i ddefnyddio’u Cymraeg

Mae modiwl chwaraeon newydd, wedi ei lansio yr wythnos hon gan Gomisiynydd y Gymraeg a Chwaraeon Cymru, yn annog arweinwyr chwaraeon cymunedol i ddefnyddio gymaint o Gymraeg ag y gallant ar y meysydd chwarae.

Bydd y modiwl yn cael ei ddefnyddio gan gyrff llywodraethu chwaraeon yng Nghymru, ac mae Undeb Rygbi Cymru, Criced Cymru, y Gweilch yn y Gymuned, ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes wedi ymrwymo i ddefnyddio’r modiwl yn eu rhaglenni hyfforddi.

Mae’r chwaraewyr rygbi cenedlaethol Rhys Patchell a Ken Owens a hyfforddwr blaenwyr Cymru Robin McBryde wedi cefnogi’r fenter, yn ogystal â’r comedïwr o Gaerdydd Mike Bubbins. Mae Mike Bubbins yn ddysgwr Cymraeg ac yn defnyddio gymaint o Gymraeg ag y gall wrth hyfforddi tîm o dan 8 Clwb Rygbi Cymry Caerdydd.

Dywedodd Mike Bubbins: “Dwi’n meddwl fod rhieni’r plant sy’n siarad Cymraeg yn gwerthfawrogi os ydych yn gwneud ymdrech i siarad Cymraeg gyda nhw. Y broblem fwyaf sydd gan bobl yw ofn gwneud ffwl ohonyn nhw ei hunain – mi fyddwn i yn dweud wrthyn nhw beidio poeni am hynny!”

Yn ôl Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg: “Bydd y modiwl yn fodd o annog arweinwyr chwaraeon ledled Cymru i ddefnyddio gymaint o Gymraeg ag y gallan nhw yn eu clybiau. Mae’n fodd arall o normaleiddio’r iaith Gymraeg o fewn bywyd bob dydd, tu allan i giatiau’r ysgol.”

Un o’r cyrff llywodraethu fydd yn cynnwys y modiwl yn eu rhaglen hyfforddi o fis Ebrill ymlaen yw Criced Cymru. Yn ôl Peter Hybart, Prif Weithredwr Criced Cymru: “Mae 20% o glybiau criced yng Nghymru eisoes yn hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydyn ni wedi datblygu’r modiwl hyfforddi newydd gyda Chomisiynydd y Gymraeg gan ein bod ni’n credu y bydd rhoi tips a hyder i’n hyfforddwyr i ddefnyddio’r iaith yn arwain at hyd yn oed fwy o Gymraeg mewn clybiau. Wrth symud ymlaen i’r tymor newydd byddwn yn hyrwyddo’r modiwl ar gyfryngau cymdeithasol ac yn ei gynnwys yn ein pecynnau datblygu hyfforddwyr.”

Ychwanegodd Tom Overton, Pennaeth Chwaraeon Cymunedol Chwaraeon Cymru: “Rydym yn falch iawn o’r modiwl hwn ac mi fyddwn ni nawr yn gweithio gyda chyrff llywodraethu chwaraeon o bob math ar draws Cymru yn eu hannog i gynnwys y modiwl yn eu rhaglenni datblygu hyfforddwyr, gan ddilyn esiampl Criced Cymru, Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, Gweilch yn y Gymuned a URC. Bydd y modiwl yn ysgogi pob clwb a phob hyfforddwr ac arweinydd i ystyried faint o Gymraeg maen nhw’n ei ddefnyddio a beth allan nhw ei wneud wrth hyfforddi  – o ddweud rhai geiriau yn Gymraeg i gynnal sesiynau cyfan yn yr iaith.”

Mae’r modiwl i’w weld ar wefan Atebion Clwb Chwaraeon Cymru – atebionclwb.cymru

Share

Offical Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play