Boundary of Wales Walk

|



Visitors to this site will possibly recall that Bernard Hedges, the former Glamorgan cricketer, passed away in February last at the age of 86.  He made his first class debut for Glamorgan in 1950 and played in 422 first class matches by the time he retired in 1967 – all of them for Glamorgan.  

Bernard’s son, Stephen and Grandson, Ellis, plan to walk around the boundary of Wales during July and August, starting at Rhossilli on the Gower and finishing at Mumbles. 

The objective is to raise at least £10,000 in memory of Stephen’s father and the proceeds will go to Cricket Wales, who will use the funding to support the Chance to Shine initiative.

Stephen and Ellis will travel west into Pembrokeshire along the coastal path, then north through Ceredigion and Montgomeryshire into Gwynedd; the pair plan to make their way along the North Wales coast to Chester and then back to the south via Offa’s Dyke.  From Newport, they will walk along the South Wales coast as far as Mumbles.

Obviously, help is requested to help to support the venture with donations, but specifically, clubs in Wales can make a big contribution by arranging for accommodation for the two, as they make their way around the boundary of Wales.  Clubs have been sent a copy of the full itinerary and it is possible to download a copy from this website (itinerary).  

If anyone can help please send an e-mail. and you will be contacted for further information.

Stephen has arranged a Facebook page and the link is as follows: https://www.facebook.com/theboundaryofwales

Please follow the link for a video appeal - https://www.youtube.com/watch?v=PgIgq69ii4Y&feature=youtu.be



Cerdded Ffiniau Cymru

Taith Gerdded er cof am Bernard Hedges, Cricedwr Morgannwg ac … i gefnogi Criced Cymru, gyda chymorth Chance to Shine

Ar 5ed Gorffennaf 2014, bydd Stephen ac Ellis Hedges, mab ac wyr cyn-gricedwr Morgannwg, Bernard Hedges, yn dechrau ar daith gerdded 1050 o filltiroedd o amgylch ffiniau Cymru.  Bydd y daith yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru a Chlawdd Offa, a bydd yn golygu dringo uchder sy’n cyfateb i ddringo Everest bedair gwaith, dros gyfnod o tua 51 diwrnod.  Bydd yr holl arian a godir gan y daith yn mynd i gefnogi datblygiad criced yng Nghymru.  Y targed a osodwyd gan Stephen ac Ellis yw £10,000.

Ganwyd Bernard Hedges ym Mhontypridd yn 1927.  Roedd yn chwaraewr talentog a amlygodd ei ddoniau ar y cae rygbi a’r llain griced.  Chwaraeodd rygbi i Bontypridd ac Abertawe.  Yn 1950, chwaraeodd i Forgannwg am y tro cyntaf, gan fynd ymlaen i chwarae am ddeunaw tymor, a phentyrru bron 18,000 o rediadau.  Mae yn y seithfed safle o hyd ymhlith sgorwyr rhediadau uchaf erioed y sir.  Ef oedd y batiwr cyntaf erioed yn nhîm Morgannwg i sgorio cant yn ystod gêm griced undydd,  ac enillodd Medal Aur Chwaraewr y Gêm yng Nghwpan Gillette yn 1963.    Mae’r fedal erbyn hyn ar gof a chadw yn Amgueddfa Criced Cymru yn stadiwm SWALEC.  Pan ddaeth y newyddion am ei farwolaeth yn gynharach eleni, fe’i disgrifiwyd fel chwaraewr ‘penigamp’, ‘cystadleuwr gwych’ a ‘gwr arbennig’.  Fel nifer o ddewrion y Gêm Sirol yn ei gyfnod, ni fyddai Bernard wedi cydnabod y disgrifiadau hyn.  Roedd yn wr diymhongar iawn oedd yn chwarae criced am ei fod yn caru’r gêm.  Roedd yn ymgorfforiad o’r dyfalbarhad a’r penderfyniad oedd yn nodweddiadol o llu o chwaraewyr Cymoedd y De.  Mi wynebodd ei  farwolaeth o ganser y coluddyn fel y wynebodd bywyd - yn dawel, a chyda dewrder ac urddas.  Mae bywyd o’r fath yn haeddu ei goffau mewn rhyw ffordd.
Share

Offical Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play