Vacancies – Trustees
Cricket Wales / Criced Cymru are looking to recruit at least two new Trustees to join the Board of Cricket Wales.
This is an exciting time to be joining the Board as we have recently become a Charity and embark on delivering our next strategic plan. To see more details of the Trustees’ role see attached document and more details of the Strategy can be accessed – Strategy
We are looking to recruit one Independent Trustee who can be a member of a cricket club but must have no administrative role in any cricket club or organisation in Wales, together with at least one Recreational Game Trustee who must be a member of a club or organisation and can be involved in cricket administration in Wales and will need to be proposed by a member of a club or cricket organisation.
We therefore welcome applications from anyone who meets the eligibility criteria to be a Trustee and never having been a Trustee before is not a barrier to being part of our Board as a full induction will be provided. Guidance on becoming a Trustee can be found here.
If you feel that you have some of the skills, competencies and experience that would help us continue to be a high performing Board in how we discharge our duties then please consider applying to join us.
In this instance we would particularly welcome applications from people with a strong interest and experience in one or more of the following;
- Generating income from sponsorship, commercial relationships, or charitable donations
- Governance and Compliance with the potential to take on the role of Company Secretary
- Safeguarding; with the willingness to take on the role as Board Safeguarding Lead from November 2027
Board meetings are held four times per year via Teams/Zoom teleconference. These focus on our core role of ensuring we have strong financial oversight, on safeguarding, risk management, and ensuring strong governance. In addition, there are two or three face to face day time Board meetings focused on strategy, culture, and values / behaviours including self-evaluation of Board performance. Trustees will also serve on one or two Board Committees which normally meet four times a year as required; these are evening meetings held via Teams / Zoom teleconference
In addition, Board Trustees are invited to attend official events such as presentations, competition finals and other relevant meetings. This is accepted to be on an ‘as available’ basis and is therefore not mandatory although support is always welcomed by our cricket community.
The Trustees role is unpaid although expenses incurred will be reimbursed
See detailed job description outlining the skills and competencies we are looking for: –
Cricket Wales is committed to providing equitable opportunities. While we will always appoint on merit, we are committed to increasing diversity and inclusion in cricket and encourage applications from under- represented groups particularly women, people from ethnically diverse backgrounds, and people with a disability.
If you would like to discuss the role in more detail please contact Dr Tim Masters, Chair Cricket Wales on chair@cricketwales.org.uk to arrange an informal discussion
To apply, please send a copy of your CV and a cover letter (nomination form for Rec Game Trustee) outlining how your skills, experience, and competencies make you the right person to join the Board of Cricket Wales to sandie.keane@cricketwales.org.uk .
Closing date for applications will be noon on Wednesday 26th August 2026 and interviews for the role will be held on 22nd September 2026.
Mae Criced Cymru yn dymuno penodi o leiaf ddau Ymddiriedolwr newydd i ymuno â Bwrdd Criced Cymru.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’r Bwrdd gan ein bod wedi cofrestru’n ddiweddar fel elusen ac yn cychwyn ar weithredu ein cynllun strategol nesaf. Ein huchelgais yw sicrhau bod criced yn “Gamp i Bawb”, a bod pawb yn teimlo croeso i gymryd rhan yn ein camp yn y ffordd sy’n gweddu orau iddynt.
Byddwn yn cyflawni ein strategaeth drwy lynu wrth ein gwerthoedd – Gyda’n Gilydd, Arwain, Gofalu – y gellir eu gweld drwy’r ddolen ganlynol: Strategaeth. Bydd y gwerthoedd hyn yn llywio popeth a wnawn fel Ymddiriedolwyr ar ran Criced Cymru.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn atebol am sicrhau bod y cwmni’n bodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol ac am berfformiad Criced Cymru wrth gyflawni ei genhadaeth a gweithredu’r strategaeth newydd. Maent yn darparu goruchwyliaeth, craffu, her ac arweinyddiaeth briodol i’r sefydliad wrth iddo geisio darparu gwasanaethau effeithiol o ansawdd uchel i’w aelodau a datblygu criced yng Nghymru. Mae ganddynt hefyd rôl allweddol wrth graffu ar berfformiad y tîm gweithredol uwch o ran cyflawni nodau ac amcanion cytûn, a monitro’r modd y caiff perfformiad ei adrodd. Ymhlith y sgiliau rydym yn chwilio amdanynt mae cynllunio strategol, cynllunio ariannol, datblygu ffrydiau incwm newydd, llywodraethu a rheoli risg.
Rydym yn awyddus i benodi un Ymddiriedolwr Annibynnol, a all fod yn aelod o glwb criced ond na ddylai fod ag unrhyw rôl weinyddol mewn unrhyw glwb neu sefydliad criced yng Nghymru. Yn ogystal, rydym yn dymuno penodi o leiaf un Ymddiriedolwr y Gêm Hamdden, a all fod yn ymwneud â gweinyddiaeth criced yng Nghymru ac y bydd angen iddo gael ei enwebu a’i eilio gan aelod o glwb neu sefydliad criced.
Rydym felly’n croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra i fod yn Ymddiriedolwr. Nid yw peidio â bod wedi gwasanaethu fel Ymddiriedolwr o’r blaen yn rhwystr, gan y bydd rhaglen sefydlu gynhwysfawr yn cael ei darparu.
Os ydych yn teimlo bod gennych y sgiliau, y cymwyseddau a’r profiad a fydd yn ein helpu i barhau i weithredu fel Bwrdd sy’n perfformio’n uchel wrth gyflawni ein cyfrifoldebau, rydym yn eich annog i wneud cais i ymuno â ni.
Yn benodol, byddem yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd â diddordeb cryf a phrofiad mewn un neu ragor o’r meysydd canlynol:
• Cynhyrchu incwm drwy nawdd, perthnasoedd masnachol neu roddion elusennol.
• Llywodraethu a chydymffurfiaeth, gyda’r potensial i ymgymryd â rôl Ysgrifennydd y Cwmni.
• Diogelu, gyda’r parodrwydd i ymgymryd â rôl Arweinydd Diogelu’r Bwrdd o fis Tachwedd 2027 ymlaen.
Mae Criced Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd teg i bawb. Er y bydd penodiadau bob amser yn seiliedig ar deilyngdod, rydym wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth a chynhwysiant mewn criced ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, yn enwedig menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol a phobl anabl.
Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd bedair gwaith y flwyddyn drwy Teams neu Zoom. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar ein prif gyfrifoldebau, sef sicrhau goruchwyliaeth ariannol gadarn, diogelu, rheoli risg a llywodraethu effeithiol. Yn ogystal, cynhelir dau neu dri chyfarfod wyneb yn wyneb yn ystod y dydd bob blwyddyn, gyda ffocws ar strategaeth, diwylliant, gwerthoedd ac ymddygiadau, gan gynnwys hunanwerthusiad o berfformiad y Bwrdd.
Bydd Ymddiriedolwyr hefyd yn gwasanaethu ar un neu ddau o Bwyllgorau’r Bwrdd, sydd fel arfer yn cyfarfod hyd at bedair gwaith y flwyddyn yn ôl yr angen. Cynhelir y cyfarfodydd hyn gyda’r nos drwy Teams neu Zoom.
Yn ogystal, gwahoddir Ymddiriedolwyr y Bwrdd i fynychu digwyddiadau swyddogol megis cyflwyniadau, rowndiau terfynol cystadlaethau a chyfarfodydd perthnasol eraill. Deallir bod hyn ar sail “yn ôl argaeledd”, ac felly nid yw’n orfodol, ond fydd cefnogaeth gan ein Hymddiriedolwyr yn cael ei gwerthfawrogi gan ein cymuned griced.
Mae rôl yr Ymddiriedolwr yn wirfoddol ac yn ddi-dâl, ond bydd treuliau rhesymol yr eir iddynt wrth gyflawni’r rôl yn cael eu had-dalu.
Mae rhagor o wybodaeth am y rôl, gan gynnwys y sgiliau a’r cymwyseddau rydym yn chwilio amdanynt, ar gael yn y dogfennau canlynol:
- Ymddiriedolwr Anweithredol – Disgrifiad Swydd
- Why become a Trustee – Cymraeg
- Nomination Form – Cymraeg
Os hoffech drafod y rôl yn fanylach, cysylltwch â Dr Tim Masters, Cadeirydd Criced Cymru, drwy e-bostio chair@cricketwales.org.uk er mwyn trefnu sgwrs anffurfiol.
I wneud cais, anfonwch gopi o’ch CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu sut mae eich sgiliau, eich profiad a’ch cymwyseddau yn eich gwneud yn ymgeisydd addas i ymuno â Bwrdd Criced Cymru at sandie.keane@cricketwales.org.uk
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Mercher 26 Awst 2026, a chynhelir cyfweliadau ar gyfer y rôl ar 22 Medi 2026.
