Vacancy for Safeguarding Officer

|

Job Title: Cricket Wales Safeguarding Officer
Reports to: Chief Executive Officer
Remuneration: £30,000 per annum
Hours: Full-Time (Flexible & Hybrid Working Considered)
Location: Sophia Gardens, Cardiff (Flexible)

About the Role

At Cricket Wales, safeguarding is not just a responsibility, it is a core foundation of our organisation and a non-negotiable priority. As one of the three pillars that underpin everything we do, safeguarding is central to achieving our vision of making Criced, A Sport for All. This means creating an environment where children, young people, and adults feel safe, respected, and included, wherever and however they participate in cricket across Wales. Reporting directly to the Chief Executive Officer, the Safeguarding Officer leads on both proactive and reactive safeguarding work, supporting a network of club and league officers, ensuring compliance with ECB and CPSU standards, and embedding best practice throughout the game.

Our organisational values, Together, Lead, Care are woven into every aspect of safeguarding. We Lead by striving to exceed minimum standards and championing best practice across the cricket network. Together, we recognise that safeguarding is everyone’s business, from board members to volunteers on the ground. We do this because we Care deeply about the wellbeing of every individual involved in Welsh cricket. This role is ideal for a dedicated safeguarding professional who shares these values and wants to help shape a safe, inclusive, and thriving future for the sport. With flexibility in working arrangements and the opportunity to make a meaningful impact, it’s a chance to be at the heart of positive change in the game we love.

Proactive Responsibilities

  • Manages proactive safeguarding across all areas of business within Wales including the Talent Pathway, NC, CCB, FCC and Foundation where appropriate
  • Working with others within the organisation to create a positive, child-centred environment within the sport as being child-centred in your approach is crucial in this role
  • Establishes, builds and maintains a supportive relationship with their network of Club Safeguarding Officers, League Safeguarding Officers Cricket Wales staff, volunteers and stakeholders acting as their first point of contact in safeguarding matters
  • Provides guidance and support to Club Safeguarding Officers on best-practice proactive safeguarding
  • Engaging with/listening to the voice of children and young people
  • Manages the process of reporting lower-level concern's (LLC) using ECB systems
  • Ensures CPA minimum standards are complied with but strives for “leading organisation” status within the County Partnership Agreement (CPA) standards for safeguarding
  • Ensures CPSU (Child Protection in Sport Unit) standards assessment is met/
  • Establishes, builds and maintains a good working relationship with their County Safeguarding Advisor (CSA) from the Cricket Regulator Safeguarding Team on behalf of the ECB
  • Establishes, builds and maintains a good working relationship with key contacts in the Child Protection in Sport Unit (CPSU) and the Anne Craft Trust as appropriate.
  • Attends quarterly meetings face to face with their CSA to discuss action plans and track CPA progress. Regularly update the Smartsheet, including as much detail as possible and attach documents to support the statements
  • Attends regular meetings with CPSU to track progress against standards.
  • Provides a detailed report to their CEO & Board Safeguarding Lead (BSL) ahead of a Board meeting to promote discussion with check and challenge at Board level around safeguarding
  • Participate in Board meetings when required to provide updates (recommended 1-2 times per year)
  • Delivers Board Safeguarding Training to their Board of Directors as appropriate.
  • Would be expected to complete training to be an ECB Safe Hands tutor, within 12 months of appointment, to deliver the ECB’s Safe Hands Workshop across Wales ahead of the season each year to support recreational cricket club staff and volunteers, to understand and adhere to their safeguarding responsibilities at club level
  • Drives compliance within safer recruitment practices throughout Wales and cascades the safer recruitment messaging and practises to club level
  • Supports all clubs in ensuring roles within regulated activity are ECB DBS & barred list checked, and requirements around overseas players/coaches are understood
  • Is the Primary Wales Wide ‘Safeguarding Recruiter,’ and ID verifier, using the ECB Online system
  • Delivers / co-delivers the Safeguarding Considerations in the Talent Pathway course every 3 years face to face with talent pathway staff
  • Is visible and provides operational safeguarding within Cricket Wales Talent Pathway
  • Completes, or has oversight of, a Training Matrix so training for staff can be monitored and checked appropriately
  • Completes, or has oversight of, the Risk Assessment process for Wales
  • Attends various inductions with Cricket Regulator Safeguarding team on commencement of role, signs up to webinars, attends regional meetings and / or any other training and CPD opportunities as provided by the Cricket Regulator on behalf of the ECB
  • Support Club Safeguarding Officers with their induction and role compliance requirements i.e. Safe Hands, Safeguarding Level 2 and DBS including verifier status
  • Provide regular updates and training via newsletters, webinars, club visits, CSO cluster network & support meetings
  • Travel for club visits, committee training and meetings
  • Shares ideas to encourage an all-inclusive, safe and welcoming culture, and listening environment
  • Willing to work unsociable hours and weekends where necessary
  • Undertakes Event Safeguarding Officer (ESO) duties where applicable. Contributes to Event Safety Plans and act as ESO where required

Reactive Responsibilities

  • Manages reactive safeguarding across all areas of business within the Cricket Wales including the Talent Pathway, NCCC, CCB, FCC and Foundation where appropriate
  • Completes referral forms in a timely and effective manner with appropriate detail to ensure a prompt and factual process going forward
  • Understands and works to the ECB threshold guidance
  • Logs all lower-level concerns (LLC) within the ECB system
  • Ensures there is a clear referral pathway for sharing, reporting and recording concerns, in line with ECB policy and guidance; and club staff know how to access them
  • Identify where Safeguarding concerns may also be potential breaches of the ECB Anti-Discrimination Code, and ensure these are referred into and managed through the appropriate process
  • Attends Local Authority Designated Officer (LADO) or other statutory agency meetings as and when required
  • Supports any safeguarding concerns which are returned to Cricket Wales to manage supported by your CSA
  • Attend inductions with Case Officers, Vetting Panel and other relevant teams on commencement of role
  • Signs up to webinars, attends regional meetings and / or any other training and CPD opportunities as provided by the Cricket Regulator on behalf of the ECB
  • Willing to work unsociable hours and weekends where necessary

Person Specification

Essential skills

  • Professional experience of safeguarding gained through relevant experience of casework e.g. Police, Social work, Education or Designated Safeguarding Lead including an understanding of current legislation, best practice and national frameworks
  • Excellent presentation and training skills
  • Enthusiasm and commitment to safeguarding
  • Excellent IT skills including Excel, Word, PowerPoint, Outlook and other IT platforms
  • Experience of building relationships with key stakeholders
  • Excellent interpersonal and relationship management skills
  • A person-centred approach with an understanding of the rights, needs and best interests of children, young people and adults
  • Experience of working to high levels of confidentiality including the storage of confidential documents
  • Understanding and experience within Mental Health support
  • Ability to challenge poor practice and effect change
  • Understanding the Cricket Regulator on behalf of the ECB’s role and responsibilities to safeguard the welfare of children, young people and adults, including policies relating to safeguarding children or adults in cricket
  • Understanding of local arrangements for managing safeguarding children and reporting procedures
  • Highly motivated with a positive solution focussed attitude and the ability to make decisions
  • Sound judgement on complex matters, knowing when to escalate concerns
  • Ability to influence and challenge people in positions of authority
  • Analytical skills to be able to identify and present key themes/trends emerging from case data
  • Access to a car and a full driving licence is essential

Desirable skills

  • Experience of multi-agency working
  • Experience of volunteering or working in cricket, other sports or a similar activity
  • Experience and training within Mental Health to support staff, themselves and wider cricket community

Mandatory training to be completed by CSO:

  1. ECB Induction to Safeguarding
  2. Safeguarding Level 2 (SSR)
  3. Core CPSU training
  4. Safer Recruitment within Cricket
  5. Safeguarding Adults within Cricket Safeguarding in the Talent Pathway
  6. Prevent Training

Areas of business CSO should attend:

  1. Cricket Regulator Safeguarding Team Conference
  2. Regional Meetings
  3. Free training provided through webinars or meetings

How to Apply:

If you're excited to help Cricket Wales continue its success, please click HERE for the application form.

Completed applications should be returned to [email protected]

Closing date for applications: 13th June 2025 at 12:00 midday

If you don’t hear from us within two weeks of the closing date your application has not been successful.

 The Cricket Regulator on behalf of the ECB and the CPSU are committed to a safer recruitment process, and this post will be subject to an Enhanced ECB DBS check with Children’s Barred List

You must be based and hold the right to work in the UK to apply for this position.

 For details on our commitment to Safer Recruitment click here

Cricket Wales believes that Safeguarding is an essential element that is central to all we do. Every child, young person and adult has the right to feel safe and included in all that they do, and this means ensuring we have the right people working within our organisation by following a robust safe recruitment process. Cricket Wales strives to make cricket in Wales a safe and enjoyable place for ‘everyone’ to experience at all levels of the game.

Teitl y Swydd: Swyddog Diogelu Criced Cymru
Yn adrodd i’r: Prif Weithredwr
Cyflog: £30,000 y flwyddyn
Oriau: Amser Llawn (Ystyrir oriau hyblyg a gweithio hybrid)
Lleoliad: Gerddi Sophia, Caerdydd (Hyblyg)

Am y Rôl

Yn Criced Cymru, mae diogelu yn fwy na chyfrifoldeb, mae’n elfen sylfaenol a chreiddiol o’n sefydliad ac yn flaenoriaeth ddiamod.  Fel un o’r tair colofn sy’n greiddiol i bopeth a wnawn, mae diogelu yn ganolog i’n nod o wireddu ein gweledigaeth o wneud Criced yn Gêm i Bawb.  Mae hyn yn golygu creu amgylchedd lle gall plant, pobl ifanc ac oedolion deimlo’n ddiogel, a theimlo eu bod yn cael eu parchu a’u cynnwys, lle bynnag a sut bynnag maent yn cymryd rhan mewn criced ledled Cymru.  Gan adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr, mae’r Swyddog Diogelu yn arwain gwaith diogelu rhagweithiol ac adweithiol, gan gefnogi rhwydwaith o swyddogion clybiau a chynghreiriau i sicrhau bod yna gydymffurfio â safonau’r ECB a’r CPSU, ac i sicrhau bod arfer da yn rhan annatod o’r gêm trwyddi draw.

Mae ein gwerthoedd fel sefydliad, sef Gyda’n Gilydd, Arwain, Gofalu wedi’u gwau i mewn i bob agwedd o ddiogelu.  Rydym yn Arwain drwy wneud ein gorau glas i fynd tu hwnt i’r gofynion lleiaf a hyrwyddo arfer da ar draws y rhwydwaith criced.  Gyda’n gilydd, rydym yn cydnabod bod diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb, o aelodau’r Bwrdd i wirfoddolwyr ar lawr gwlad.  Rydym yn gwneud hyn am ein bod yn benderfynol o Ofalu am les pob unigolyn sy’n cymryd rhan mewn criced yng Nghymru.  Mae’r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer gweithiwr diogelu proffesiynol ymroddgar sy’n rhannu’r gwerthoedd hyn ac sydd am helpu i greu dyfodol diogel, cynhwysol a ffyniannus i’r gêm.  Gyda’r hyblygrwydd o ran trefniadau gwaith a’r cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn, mae hwn yn gyfle i fod wrth galon newid positif yn y gêm rydym yn ei garu.

Cyfrifoldebau Rhagweithiol

  • Rheoli diogelu rhagweithiol ar draws pob maes o’r busnes yng Nghymru, gan gynnwys y Llwybr Talent, NC, CCB, FCC a’r Sefydliad lle bo’n briodol
  • Gweithio gydag eraill o fewn y sefydliad i greu amgylchedd positif sy’n canolbwyntio ar y plentyn, am fod dulliau sy’n canolbwyntio ar y plentyn yn hanfodol i’r rôl
  • Sefydlu, adeiladu a chynnal perthynas gefnogol gyda’r rhwydwaith o Swyddogion Diogelu Clybiau, Swyddogion Diogelu Cynghreiriau, staff Criced Cymru, gwirfoddolwyr a rhanddeiliaid, gan fod yn bwynt cyswllt cyntaf iddyn nhw mewn materion diogelu
  • Darparu arweiniad a chymorth i Swyddogion Diogelu Clybiau ar arfer gorau mewn perthynas â diogelu rhagweithiol
  • Ymgysylltu/gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc
  • Rheoli’r broses o roi gwybod am bryderon lefel is gan ddefnyddio systemau’r ECB
  • Sicrhau bod yna gydymffurfio â safonau gofynnol y Cytundeb Partneriaeth Sirol (CPA) ond ymdrechu i sicrhau statws ‘sefydliad arweiniol’ o fewn safonau diogelu’r CPA
  • Sicrhau bod safonau asesu’r Uned Amddiffyn Plant Mewn Chwaraeon (CPSU) yn cael eu bodloni
  • Sefydlu, adeiladu a chynnal perthynas waith dda gyda’r Cynghorydd Diogelu Sirol o Dîm Diogelu y Rheolydd Criced ar ran yr ECB
  • Sefydlu, adeiladu a chynnal perthynas waith dda â chysylltiadau allweddol yn yr Uned Amddiffyn Plant Mewn Chwaraeon (CPSU) ac Ymddiriedolaeth Anne Craft fel bo’n briodol
  • Mynychu cyfarfodydd chwarterol wyneb yn wyneb gyda’r Cynghorydd Diogelu Sirol i drafod cynlluniau gweithredu a thracio cynnydd y Cytundeb Partneriaeth Sirol. Diweddaru’r Smartsheet yn rheolaidd, gan gynnwys cymaint o fanylion â phosib, ac atodi dogfennau i gefnogi’r datganiadau
  • Mynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda’r CPSU i dracio cynnydd yn erbyn safonau
  • Darparu adroddiad manwl ar gyfer y Prif Weithredwr ac Arweinydd Diogelu’r Bwrdd cyn cyfarfodydd y Bwrdd i hyrwyddo trafodaeth ‘gwirio a herio’ ar lefel y Bwrdd parthed diogelu
  • Cymryd rhan yng nghyfarfodydd y Bwrdd pan fo angen i ddarparu diweddariadau (argymhellir unwaith neu ddwywaith y flwyddyn)
  • Darparu Hyfforddiant Diogelu ar gyfer y Bwrdd Cyfarwyddwyr fel bo’n briodol
  • Byddai gofyn cwblhau hyfforddiant i fod yn diwtor Dwylo Diogel yr ECB o fewn 12 mis o’r penodiad, i gyflwyno Gweithdai Dwylo Diogel yr ECB ledled Cymru cyn dechrau’r tymor bob blwyddyn, i helpu staff clybiau criced hamdden a gwirfoddolwyr i ddeall a chadw at eu cyfrifoldebau diogelu ar lefel clwb
  • Hyrwyddo cydymffurfio o ran arferion recriwtio mwy diogel ledled Cymru a ffrydio negeseuon ac arferion recriwtio mwy diogel ar lefel clybiau
  • Cynorthwyo pob clwb i sicrhau bod rolau o fewn gweithgaredd rheoledig wedi cael gwiriad DBS a gwiriad rhestr waharddedig yr ECB, a’u bod yn deall y gofynion mewn perthynas â chwaraewyr/hyfforddwyr tramor
  • Yn ‘Recriwtiwr Diogelu’ Cynradd Cymru Gyfan, a gwiriwr ID, gan ddefnyddio system ar-lein yr ECB
  • Yn cyflenwi/cyd-gyflenwi Ystyriaethau Diogelu y cwrs Llwybr Talent bob tair blynedd, wyneb yn wyneb â staff y llwybr talent
  • Yn weladwy ac yn darparu diogelu gweithredol o fewn Llwybr Talent Criced Cymru
  • Wedi cwblhau, neu yn meddu ar drosolwg o Fatrics Hyfforddi, fel bod modd monitro a gwirio staff yn y modd cywir
  • Wedi cwblhau, neu’n meddu ar drosolwg o’r broses Asesu Risg ar gyfer Cymru
  • Yn mynychu sesiynau sefydlu amrywiol Tîm Diogelu’r Rheolydd Criced wrth ddechrau ar y rôl, gan gofrestru ar gyfer gweminarau, mynychu cyfarfodydd rhanbarthol a/neu unrhyw hyfforddiant arall a chyfleoedd DPP fel y’u darperir gan y Rheolydd Criced ar ran yr ECB
  • Cynorthwyo Swyddogion Diogelu Clybiau gyda’u rhaglen sefydlu a’r gofynion cydymffurfio sy’n gysylltiedig â’r rôl h.y. Dwylo Diogel, Diogelu Lefel 3 a DBS, gan gynnwys statws gwiriwr
  • Darparu diweddariadau a hyfforddiant rheolaidd drwy gyfrwng cylchlythyrau, gweminarau, ymweliadau â chlybiau, rhwydwaith clwstwr Swyddogion Diogelu Clybiau a chyfarfodydd cymorth
  • Teithio i ymweld â chlybiau, ac ar gyfer hyfforddiant a chyfarfodydd pwyllgor
  • Rhannu syniadau i annog diwylliant cynhwysol, diogel a chroesawgar, ac amgylchedd sy’n gwrando
  • Parodrwydd i weithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau pan fo angen
  • Yn ymgymryd â dyletswyddau Swyddog Diogelu Digwyddiad lle bo’n berthnasol. Cyfrannu at Gynlluniau Diogelwch y Digwyddiad a gweithredu fel Swyddog Diogelu Digwyddiad pan fo angen.

Cyfrifoldebau Adweithiol

  • Rheoli diogelu adweithiol ar draws pob maes o’r busnes o fewn Criced Cymru gan gynnwys y Llwybr Talent, NCCC, CCB, FCC a’r Sefydliad lle bo’n briodol
  • Llenwi’r holl ffurflenni cyfeirio yn brydlon ac yn effeithiol gyda’r manylion priodol i sicrhau proses brydlon a ffeithiol wrth symud ymlaen
  • Yn deall ac yn gweithio yn ôl canllawiau trothwy yr ECB
  • Yn cadw cofnod o bob pryder lefel is o fewn system yr ECB
  • Yn sicrhau bod yna lwybr cyfeirio clir ar gyfer rhannu, rhoi gwybod am, a chofnodi pryderon, yn unol â pholisi a chanllawiau’r ECB; a bod staff clybiau’n gwybod sut i gael mynediad atyn nhw
  • Nodi lle gall pryderon Diogelu hefyd fod yn achosion posib o dorri Cod Gwrth-wahaniaethu yr ECB, a sicrhau bod y rhain yn cael eu cyfeirio a’u rheoli drwy’r broses briodol
  • Mynychu cyfarfodydd Swyddogion Dynodedig yr Awdurdod Lleol neu gyfarfodydd asiantaethau statudol eraill fel bo angen
  • Cynorthwyo gydag unrhyw bryderon diogelu sy’n cael eu dychwelyd i’w rheoli gan Criced Cymru gyda chymorth y Cynghorydd Diogelu Sirol
  • Mynychu sesiynau sefydlu gyda Swyddogion Achos, y Panel Fetio ac unrhyw dimau eraill perthnasol wrth dechrau ar y rôl
  • Cofrestru ar gyfer gweminarau, mynychu cyfarfodydd rhanbarthol a/neu unrhyw hyfforddiant arall a chyfleoedd DPP fel y’u darperir gan y Rheolydd Criced ar ran yr ECB
  • Parodrwydd i weithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau fel bo angen

Manylion Personol

Sgiliau hanfodol

  • Profiad proffesiynol o ddiogelu a gafwyd drwy brofiad perthnasol o waith achos e.e. yr Heddlu, gwaith Cymdeithasol, Addysg neu Swyddog Arweiniol Diogelu Dynodedig, gan gynnwys dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth bresennol, arfer gorau, a fframweithiau cenedlaethol
  • Sgiliau cyflwyno a hyfforddi ardderchog
  • Brwdfrydedd ac ymrwymiad i ddiogelu
  • Sgiliau TG ardderchog gan gynnwys Excel, Word, PowerPoint, Outlook a phlatfformau TG eraill
  • Profiad o adeiladu perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol
  • Sgiliau rhyngbersonol a rheoli perthnasoedd ardderchog
  • Dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ynghyd â dealltwriaeth o hawliau, anghenion a budd gorau plant, pobl ifanc ac oedolion
  • Profiad o weithio yn ôl lefelau uchel o gyfrinachedd gan gynnwys storio dogfennau cyfrinachol
  • Dealltwriaeth a phrofiad ym maes cymorth Iechyd Meddwl
  • Y gallu i herio arfer gwael a sicrhau newid
  • Deall y Rheolydd Criced o ran rolau a chyfrifoldebau’r ECB i ddiogelu lles plant, pobl ifanc ac oedolion, gan gynnwys polisïau sy’n ymwneud â diogelu plant neu oedolion mewn criced
  • Dealltwriaeth o drefniadau lleol ar gyfer rheoli gweithdrefnau diogelu plant a rhoi gwybod am bryderon
  • Yn llawn cymhelliad gydag agwedd bositif, ynghyd â’r gallu i ganolbwyntio ar atebion a gwneud penderfyniadau
  • Doethineb mewn perthynas â materion cymhleth, a gwybod pryd i roi gwybod am bryderon
  • Y gallu i ddylanwadu ar, a herio pobl sydd mewn awdurdod
  • Sgiliau dadansoddol i allu nodi a chyflwyno themâu/tueddiadau allweddol sy’n deillio o ddata achosion
  • Mae’r defnydd o gar a thrwydded yrru lawn yn hanfodol

Sgiliau dymunol

  • Profiad o waith aml-asiantaeth
  • Profiad o wirfoddoli neu weithio o fewn y byd criced, chwaraeon eraill neu weithgaredd tebyg
  • Profiad a hyfforddiant ym maes Iechyd Meddwl i gynorthwyo staff, nhw’u hunain, a’r gymuned griced ehangach.

Hyfforddiant gorfodol i’w gwblhau gan y Swyddog Diogelu Criced:

  1. Cyflwyniad yr ECB i Ddiogelu
  2. Diogelu Lefel 2 (SSR)
  3. Hyfforddiant craidd y CPSU
  4. Recriwtio Mwy Diogel o fewn Criced
  5. Diogelu Oedolion o fewn Criced – Llwybr Talent
  6. Hyfforddiant Prevent

Meysydd busnes y dylai’r Swyddog Diogelu Criced eu mynychu:

  1. Cynhadledd Tîm Diogelu y Rheolydd Criced
  2. Cyfarfodydd Rhanbarthol
  3. Hyfforddiant am ddim a ddarperir drwy weminarau neu gyfarfodydd

Sut i Ymgeisio:

Os ydych chi’n frwdfrydig dros helpu Criced Cymru i barhau i lwyddo, cliciwch YMA i gael ffurflen gais.

Dylech ddychwelyd y ffurflen gais ar ôl ei llenwi at [email protected]

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 13 Mehefin 2025  am 12:00 hanner dydd

Os na fyddwch chi wedi clywed gennym o fewn pythefnos o’r dyddiad cau, nid yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus.

 Mae’r Rheolydd Criced ar ran yr ECB a’r CPSU wedi ymrwymo i broses recriwtio fwy diogel, a bydd y swydd hon yn destun gwiriad DBS manylach a gwiriad Rhestr Waharddedig Plant yr ECB.

Rhaid ichi fod yn byw ac yn meddu ar yr hawl i weithio yn y DU i wneud cais am y swydd hon.

 Am fanylion ein hymrwymiad i Recriwtio Mwy Diogel cliciwch yma

Mae Criced Cymru yn credu bod Diogelu yn elfen hanfodol sy’n ganolog i bopeth a wnawn.  Mae gan bob plentyn, person ifanc ac oedolyn yr hawl i deimlo’n ddiogel ac yn rhan o bopeth a wnânt, ac mae hynny’n golygu sicrhau bod gennym y bobl iawn yn gweithio o fewn y sefydliad, drwy ddilyn proses recriwtio diogel gadarn.  Mae Criced Cymru yn gwneud ei orau glas i wneud criced yng Nghymru yn gêm ddiogel a phleserus i ‘bawb’ ei mwynhau ar bob lefel.

 

 

 

 

 

Share

Official Partners

Glamorgan Cricket Sport Wales England Cricket Board The National Lottery Masuri Chance To Shine Lord's Taverners NV Play