Mynd i'r cynnwys

Criced Cymru’n Creu Hanes fel y Corff Llywodraethu Cyntaf yng Nghymru i gael Statws Elusennol

Wedi’i chofrestru bellach fel Elusen Rhif 1215329, mae Criced Cymru yn galw ar y gymuned fusnes i weithio mewn partneriaeth i sicrhau effaith gymdeithasol sylweddol a chwalu’r rhwystrau rhag cymryd rhan mewn chwaraeon ledled Cymru.

Mae Criced Cymru wedi cymryd cam mentrus ac arloesol drwy ddod yn gorff llywodraethu cenedlaethol cyntaf yng Nghymru i sicrhau statws elusennol. Cafwyd sêl bendith y Comisiwn Elusennau ym mis Hydref 2025, a bydd y sefydliad bellach yn gweithredu fel elusen gyfyngedig trwy warant, cam sy’n nodi cyfnod newydd i griced yng Nghymru.

Mae’r garreg filltir hon yn cryfhau safle Criced Cymru fel sefydliad â phwrpas, sef un sydd wedi ymrwymo i ddefnyddio criced fel grym er daioni, yn creu cyfleoedd ac yn cyflawni gwerth cymdeithasol go iawn ar draws cymunedau yng Nghymru.

Fel corff llywodraethu cenedlaethol criced yng Nghymru ac un o’r 39 o Fyrddau Criced Sirol sy’n perthyn i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB), mae Criced Cymru yn parhau i gael ei gydnabod gan Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru am ei arweinyddiaeth yn datblygu ac yn cefnogi’r gêm.

Gyda Criced Morgannwg yn arwain ar lwybrau elitaidd a nodi talent, bydd Criced Cymru bellach yn canolbwyntio fwy nag erioed ar feithrin clybiau cyswllt a sefydliadau cymunedol, i sicrhau bod y gêm yn ffynnu ar lawr gwlad. Bydd y newid strategol hwn yn golygu bod Criced Cymru yn rhoi blaenoriaeth i chwalu rhwystrau rhag cael mynediad at griced mewn ardaloedd llai breintiedig, gan ymgyrchu hefyd dros gydraddoldeb rhywedd ar draws y gêm. Mae’r sefydliad wedi ymrwymo i gynorthwyo pobl gydag anableddau i gymryd rhan a mwynhau criced, gan ddyfnhau cysylltiadau â chymunedau ethnig amrywiol, a mynd i’r afael â gwahaniaethau o ran mynediad at y gêm ar draws ysgolion yng Nghymru. Trwy ganolbwyntio adnoddau ac arbenigedd ar fentrau lleol o’r fath, nod Criced Cymru yw creu amgylchedd criced fwy cynhwysfawr a hygyrch, sy’n croesawu chwaraewyr a chefnogwyr o bob cwr o’r gymdeithas yng Nghymru. Mae’r amcanion hyn wrth galon gweledigaeth strategol Criced Cymru, sef Criced: Gêm i Bawb, sydd am sicrhau bod criced yn dod yn gêm wirioneddol gynhwysol, cynaliadwy, a ffyniannus ymhob cwr o Gymru.

Meddai Prif Weithredwr Criced Cymru, Barry Cawte: “Mae hyn yn ganolog i’n strategaeth, sef Criced: Gêm i Bawb. Dyma ein cam mentrus ymlaen ar y cyd. Mae wedi’i adeiladu ar y gred gadarn y gall, ac y dylai, criced ddod yn gêm wirioneddol gynhwysol, cynaliadwy, a ffyniannus ymhob cwr o Gymru.

“Mae’n adlewyrchu lleisiau ein pobl, anghenion ein cymunedau, a’r gwerthoedd cadarn sydd mor agos at ein calonnau, sef Gyda’n Gilydd, Arwain, Gofalu. Rydym wrthi’n gwarchod yr hyn sy’n werthfawr am y gêm, ei hysbryd, ei hetifeddiaeth, a’i hymdeimlad o berthyn, gan hefyd chwyldroi ei dyfodol ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.”

Mae Criced Cymru yn awyddus bellach i adeiladu perthynas fwy cadarn â’r gymuned fusnes, gan sicrhau bod ei chenhadaeth elusennol yn cydweddu ag amcanion gwerth cymdeithasol a chyfrifoldeb corfforaethol cwmnïau.

“Rydym am fod yn fwy gweladwy o fewn y sector busnes,” meddai Mark Frost, Rheolwr Partneriaethau Criced Cymru. “Mae cael statws elusennol yn anfon neges glir ynghylch sut y gallwn gydweddu gwaith Criced Cymru, sef cefnogi cymunedau a chreu cyfleoedd, gydag amcanion effaith gymdeithasol busnesau amrywiol. Mae hefyd yn helpu i’w gwneud nhw’n fwy gweladwy a chodi eu proffil ledled Cymru.”

Mae nifer o gwmnïau eisoes wedi ymuno â Criced Cymru fel Partneriaid Cyswllt, gan gydweithio ar brosiectau sy’n cefnogi clybiau a chymunedau lleol. Mae’r partneriaethau hyn yn caniatáu i Criced Cymru argymell partneriaid busnes dibynadwy i’w rwydwaith o dros 200 o glybiau a chynghreiriau, gan helpu economïau lleol i ffynnu ochr yn ochr â’r gêm.

“Unwaith y mae pobl yn dysgu am yr hyn rydym yn ei wneud, mae nifer o fusnesau yn awyddus i archwilio sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd,” ychwanegodd Frost. “Rydym yn gwahodd mwy o sefydliadau i ymuno, a bod yn rhan o’r siwrnai gyffrous hon.”

Mae Criced Cymru wrthi’n gwahodd y gymuned fusnes i ymuno yn ei chenhadaeth drwy archwilio amrywiaeth o gyfleoedd partneriaeth ystyrlon. Gall busnesau ddod yn Bartner Cyswllt, gan sicrhau dyrchafiad drwy rwydwaith eang Criced Cymru o glybiau, cynghreiriau a rhaglenni cymunedol, a gweithio ochr yn ochr â gêm ffyniannus sy’n sicrhau gwerth cymdeithasol sylweddol ledled Cymru. Mae’r sefydliad hefyd yn croesawu’r rhai sydd am adael gwaddol parhaus, drwy ystyried criced yn eu rhoddion elusennol neu ewyllys, ac mae’n annog busnesau i enwebu Criced Cymru fel yr elusen o’u dewis o ran cefnogi effaith barhaus o fewn cymunedau yng Nghymru. Mae’r partneriaethau hyn yn cynnig mwy na chyfle i arddangos brand, maent yn cynnig cyfle i fuddsoddi yn nyfodol criced yng Nghymru, a chyfrannu at y gwaith o adeiladu cymunedau fwy cydnerth a chynhwysol drwy rym chwaraeon.

Ar gyfer ymholiadau partneriaeth neu i drafod sut y gall eich sefydliad chi wneud gwahaniaeth, cysylltwch â: mark.frost@glamorgancricket.co.uk

Fel elusen gofrestredig newydd Rhif 1215329, mae Criced Cymru yn barod i ddod â phobl a busnesau at ei gilydd trwy griced, gan warchod yr hyn sy’n werthfawr, chwyldroi’r dyfodol, a sicrhau bod criced yn parhau i fod yn destun balchder, pwrpas, a chynnydd yng Nghymru.